Unwaith eto eleni, mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref y Fflint, mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam wedi trefnu dathliad yng nghanol tref Y Fflint ar Fawrth y 1af.
Fel llynedd, cynhelir y dathliadau yng nghanol tref y Fflint, gyda llwyfan wedi ei osod o flaen Eglwys Santes Fair ar Stryd yr Eglwys, ar ddydd Iau, Mawrth 1af gan ddechrau am 10a.m. ac fe estynnir croeso cynnes i bawb ymuno yn yr hwyl. Bydd perfformiadau â blas Cymreig gan ysgolion a cherddorion lleol i ddathlu dydd ein Nawddsant. Bydd Maer y Fflint yn cyhoeddi enillwyr y gystadleuaeth addurno ffenestri Gŵyl Ddewi yn ystod y digwyddiad hefyd.
Cystadleuaeth Ffenestri
Dywedodd Prif Swyddog Menter Iaith Fflint a Wrecsam, Gill Stephen,
“Mae yna groeso mawr i unrhyw un sy eisiau ymuno yn yr hwyl ar y diwrnod, boed yn unigolion, ysgolion, cymdeithasau, mudiadau neu chlybiau ieuenctid lleol. Rydym hefyd yn gobeithio adeiladu ar lwyddiant cystadleuaeth addurno ffenestri y llynedd drwy gael hyd yn oed mwy o fusnesau lleol i gymryd rhan, ac mae amser o hyd i fusnesau gysylltu â ni i gofrestru a derbyn eu pecyn cychwynnol – yn rhad ac am ddim!”
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Y Fflint dros Addysg ac Ieuenctid, y Cynghorydd Ian Roberts,
“Rwyf unwaith eto yn falch o gael mynychu’r dathliad anhygoel hwn. Mae’n ffordd wych o ddod â’r gymuned ynghyd ac yn ffordd wych o ddathlu’r Gymraeg a’n diwylliant yn diyn llwyddiant anhygoel Eisteddfod yr Urdd 2016.”
Dylai unrhyw un â diddordeb mewn ymuno yn yr orymdaith neu’r gystadleuaeth addurno ffenestri gysylltu â Chris Baglin ym Menter Iaith Fflint a Wrecsam neu ffonio 01352 744 040.