Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi

Mae’n amser hynny o’r flwyddyn lle rydym yn brysur drefnu dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn Y Fflint a Wrecsam, ac unwaith eto eleni rydym yn bwriadu gwneud hynny mewn steil.

Yn wahanol i’r arfer, byddwn yn dathlu wythnos yn gynharach yn nhref Y Fflint ar Ddydd Gwener, 22ain Chwefror a bydd dathliadau yn Wrecsam yn cael eu cynnal, ar Ddydd Gŵyl Dewi ei hun, Dydd Gwener, 1af o Fawrth. Fel rhan o’r dathliadau hynny, bydd yr orymdaith flynyddol yn cymryd lle trwy strydoedd Wrecsam am 1:00pm.

Bydd tref Wrecsam a rhai o drefi Sir y Fflint wedi cael eu haddurno yn goch, gwyn a gwyrdd unwaith eto eleni, gan y bydd ein cystadlaethau addurno ffenestri busnesau hefyd yn cael eu cynnal.

Cymorth Gwirfoddolwyr

I sicrhau llwyddiant y dathliadau hyn, byddwn angen cymorth gwirfoddolwyr i stiwardio’r digwyddiadau, yn enwedig gorymdaith Wrecsam. Yn ystod y ddau ddigwyddiad, bydd pob stiward yn cael arweiniad gan aelod o staff Menter Iaith Fflint a Wrecsam ac yn cael benthyg siaced lachar.

Gwirfoddoli yn Y Fflint

Mae angen i stiwardiaid dathliad y Fflint fod ar gael o tua 9:30am hyd at tua 11:30am.

Gwirfoddoli yn Wrecsam

Byddwn angen o leiaf 20 o stiwardiaid, yn bennaf i sefyll ar gorneli strydoedd ar hyd llwybr yr orymdaith i hebrwng y cerddwyr ac i wneud yn siŵr eu bod yn symud ymlaen ar hyd y daith yn ddiogel. Mae angen i stiwardiaid Gorymdaith Wrecsam fod ar gael o 12:00pm ac mi fyddai cymorth i dacluso offer a.y.yb. ar ddiwedd yr orymdaith yn cael ei werthfawrogi’n fawr.

Gofynnwn yn garedig iawn am eich cefnogaeth trwy gynnig eich amser i stiwardio’r digwyddiadau.

Os hoffech chi stiwardio yn Y Fflint neu Wrecsam, mae croeso i chi gysylltu drwy ebostio anna@menterfflintwrecsam.cymru neu ffonio 01352 744 040.

Mwy o wybodaeth am drefniadau ac amserlen dathliad Dydd Gŵyl Dewi y Fflint a Wrecsam i ddod yn fuan.