Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi

Mae’n amser hynny o’r flwyddyn lle mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn brysur drefnu dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn Y Fflint a Wrecsam, ac unwaith eto eleni rydym yn bwriadu gwneud hynny mewn steil.

Bydd dathliadau yn Wrecsam yn cael ei cynnal ar Ddydd Gŵyl Dewi ei hun, Dydd Sul, Mawrth 1af. Fel rhan o’r dathliadau hynny, bydd yr orymdaith flynyddol y cymryd lle trwy strydoedd Wrecsam am 1:00pm gan ddechrau yn Nhŷ Pawb. Yna ar Ddydd Llun, Mawrth 2il, bydd dathliadau yn cymryd lle yn nhref Y Fflint.

Bydd tref Wrecsam a rhai o drefi Sir y Fflint wedi cael eu haddurno yn goch, gwyn a gwyrdd unwaith eto eleni, gan y bydd ein cystadlaethau addurno ffenestri busnesau hefyd yn cael eu cynnal.

Cymorth Gwirfoddolwyr

I sicrhau llwyddiant y dathliadau hyn, byddwn angen cymorth gwirfoddolwyr i stiwardio’r digwyddiadau, yn enwedig gorymdaith Wrecsam. Yn ystod y ddau ddigwyddiad, bydd pob stiward yn cael arweiniad gan aelod o staff Menter Iaith Fflint a Wrecsam ac yn cael benthyg siaced lachar.

Gwirfoddoli yn Wrecsam

Yn Wrecsam, byddwn angen o leiaf 20 o stiwardiaid, yn bennaf i sefyll ar gorneli strydoedd ar hyd llwybr yr orymdaith i hebrwng y cerddwyr ac i wneud yn siŵr eu bod yn symud ymlaen ar hyd y daith yn ddiogel. Mae angen i stiwardiaid Gorymdaith Wrecsam fod ar gael o 12:00pm ac mi fyddai cymorth i dacluso offer ar ddiwedd yr orymdaith yn cael ei werthfawrogi’n fawr.

Gwirfoddoli yn y Fflint

Mae angen i stiwardiaid dathliad y Fflint fod ar gael o oddeutu 9:30am hyd at tua 11:30am.

Gofynnwn yn garedig iawn am eich cefnogaeth trwy gynnig eich amser i stiwardio’r digwyddiadau.

Os hoffech chi stiwardio yn Wrecsam neu’n Y Fflint, mae croeso i chi gysylltu drwy ebostio anna@menterfflintwrecsam.cymru neu ffonio 01352 744 040.

Mwy o wybodaeth am ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi Wrecsam a’r Fflint i ddod yn fuan!