Ers sawl blwyddyn bellach, mae Cystadlaethau Addurno Ffenestri wedi bod yn rhan flaenllaw o ddathliadau Gŵyl Ddewi yn nhref Wrecsam a sawl un o drefi Sir y Fflint (Yr Wyddgrug, Y Fflint, Treffynnon, Cei Connah a Shotton).
Mae’r cystadlaethau, a drefnir gan Fenter Iaith Fflint a Wrecsam ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Sir y Fflint, yn annog busnesau i addurno’u ffenestri ar y thema ‘Dydd Gŵyl Dewi’ gan ddathlu popeth Cymraeg a Chymreig.
Yn anffodus, oherwydd yr amgylchiadau presennol ni fydd yn bosibl cynnal y Cystadlaethau Addurno Ffenestri eleni.
Serch hynny, bydd cyfle i edrych yn ôl a chofio rhai o arddangosfeydd gorau’r gorffennol – sydd yn cofnodi cyfraniad ein busnesau bach i gymeriad ac economi ein cymunedau – yn ystod wythnos yr 1af- 5ed o Fawrth pan fydd wythnos gyfan o ddigwyddiadau amrywiol rhithiol i ddathlu Gŵyl Ddewi yn cael eu dangos ar gyfryngau cymdeithasol Menter Iaith Fflint a Wrecsam.
Os ydych chi am ymuno yn y dathliadau mewn unrhyw ffordd, cofiwch ddefnyddio’r hashnodau #DewiSiryFflint a #DewiWrecsam a chofiwch ddilyn canllawiau diogelwch Covid-19 Llywodraeth Cymru bob amser.