Pleser yw  cyhoeddi bod Gŵyl Gymunedol Gymraeg newydd yn dod i’r Wyddgrug…

GWYDDGIG

Mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam wedi cyd-lynu diwrnod o ddathliad diwylliannol a chelfyddydol gyda cherddoriaeth byw, gweithdai i deuluoedd a phobol ifanc, sgyrsiau i ddysgwyr a mwy.

Ar ddydd Sadwrn Mehefin 15fed bydd Sgwâr Daniel Owen yn llawn bwrlwm wrth i ysgolion lleol berfformio ar ddiwrnod Marchnad gyda Jonathan Thomas, Swyddog Hyrwyddo ac Ymgysylltiad Marchnadoedd Sir y Fflint, yn nodi:

‘Mae marchnad Yr Wyddgrug yn mynd o nerth i nerth a gwych ydy gweld digwyddiadau fel Gwyddgig yn denu pobl i ganol y dref’

Bydd cyfle hefyd i ymuno mewn sesiwn tylino gyda Chymraeg i blant yn y Llyfrgell, gweithdai theatr a gweithdai DJ yn adeilad Theatr Clwyd, Celf a Chrefft yng nghanolfan Daniel Owen a mwynhau perfformiadau gan Tudur Phillips a’i sioe ‘Sigl-di-gwt’, Gwilym Bowen Rhys a Morgan Elwy a’r Band a llawer mwy.

Dywedodd Maiwenn Berry, Prif Swyddog Menter Iaith Fflint a Wrecsam:

‘Braf yw cynnal gŵyl sy’n amlygu’r cyfleon i deuluoedd, plant a phobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg yn lleol ond sydd hefyd yn croesawu pobl sydd ddim yn siarad Cymraeg ond eisiau dysgu mwy am yr iaith a’i diwylliant’

Yn wir bydd rhywbeth at ddant pawb yn ystod y dydd, a’r hyn oll am DDIM felly cadwch lygaid ar ein cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan am ddiweddariadau a chyhoeddiadau cyffrous. Derbyniodd Gwyddgig £ 9393.20 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac hefyd wedi’i ariannu’n rhannol a’i gefnogi gan Grant Cist Gymunedol Sir y Fflint a Theatr Clwyd.

Am fwy o wybodaeth ewch i www.menterfflintwrecsam.cymru/gwyddgig