GwyddGig

Croeso i Gwyddgig!

Gŵyl Gymunedol Gymraeg newydd yn Yr Wyddgrug yw Gwyddgig sy’n ddathliad diwylliannol a chelfyddydol gyda cherddoriaeth byw, gweithdai i deuluoedd a phobol ifanc, sgyrsiau i ddysgwyr a mwy.

Felly dyma estyn gwahoddiad i chi i ymuno yn y bwrlwm ar Sgwâr Daniel Owen ar 15fed Mehefin 2024 – ar hyn oll am ddim!

Bydd gweithdai a gweithgareddau o bob lliw a llun yn yr adeiladau cyfagos gan gynnwys y Llyfrgell, Canolfan Daniel Owen, Neuadd y Seiri a Neuadd Eglwys y Santes Fair.  Mae llefydd yn gyfyng ar rai o’r gweithdai felly rhaid archebu tocyn AM DDIM i sicrhau lle ar y sesiynau isod drwy ymweld a gwefan docynnau’r fenter

  • Tylino Babi gyda Cymraeg i Blant
  • Symud Gyda Tedi gyda Hanna Medi
  • Gweithdai DJ gyda DJ Dilys (11+)

Tocynnau AM DDIM / FREE Tickets: https://www.ticketsource.co.uk/menteriaithffaw

Bydd hefyd gweithdai yn Adeilad Dewi Sant (Theatr Clwyd) ger y sgwâr gan gynnwys;

  • Gweithdy Creadigol i’r Teulu
  • Gweithdy Creadigol i Blant Hŷn (11+)
  • Gweithdy sgwennu gyda Anni Llŷn (Addas i Siaradwyr Cymraeg a Dysgwyr Lefel Canolradd +)

Archebwch drwy wefan Theatr Clwyd – What’s On (main page) | Theatr Clwyd, neu drwy ffonio’r swyddfa docynnau ar 01352 344101

Dan ni hefyd yn ffodus iawn i groesawu Mared Williams a’r Band i ymuno â ni am gig gyda’r hwyr ar nos Sadwrn 15fed Mehefin i gloi ein gŵyl yn Eglwys y Santes Fair am 7:30 PM.

Mae tocynnau ar gael i’r gig ar ein gwefan docynnau: https://www.ticketsource.co.uk/menteriaithffaw

Oedolion – £10

Plant/Tocyn Mantais – £5

Cefnogwyr yr ŵyl – £15

Beth sy’ Mlaen?

Dyma amserlen y dydd er mwyn i chi gynllunio eich diwrnod! (Nodir y bydd yn debygol i amseroedd rhai o’r perfformiadau ar y Sgwâr newid cyn y diwrnod).

Map GwyddGig

Tocynnau

Ticketsource – Menter Iaith FfAW

What’s On (main page) | Theatr Clwyd