Mae Haf o Hwyl yn ôl eto ‘leni!  Fel canlyniad i dderbyn cyllid ychwanegol gan Gyngor Sir y Fflint y flwyddyn diwethaf fel rhan o gynlluniau Haf o Hwyl a Gaeaf Llawn Lles roedd modd i ni ddarparu nifer helaeth o gyfleoedd ychwanegol i gymdeithasu yn y Gymraeg tu allan i’r ysgol i blant a phobl ifanc ar draws Sir y Fflint.  Roedd y gweithgareddau hynny, a ddigwyddodd yn ystod y gwyliau haf, ar ôl ysgol ac ar benwythnosau, yn cynnwys sioeau Mewn Cymeriad, gwersi padlfyrddio, gemau gwirion a phob math o sesiynau rhyngweithiol eraill, sy heb os wedi cyfoethogi profiadau’r rhai a gymerodd rhan o gymdeithasu yn Gymraeg.

Mae’r Fenter yn edrych ‘mlaen at drefnu a chynnal cyfres o weithgareddau tebyg eto dros yr haf eleni.  Bydd yr holl digwyddiadau, sydd yn addas i deuluoedd â phlant ac i bobl ifanc, ar gael am ddim ac yn cael eu cynnal gan amryw o ddarparwyr talentog a bywiog megis Fiona Collins, Colin Daimond ac Iwan Edwards.  Y gobaith eto yw bydd y sesiynau hyn yn cyfoethogi profiad plant a phobl ifanc yr ardal o ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol ac ysgogi mwy o deuluoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol Cymraeg yn y dyfodol.

Felly cadwch lygaid ar ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys Facebook, Twitter ac Instagram dros yr wythnosau nesaf i glywed mwy am yr hyn sydd ar y gweill.

Facebook : @menteriaithffaw

Instagram : @menteriaithffaw

Twitter : @fflintawrecsam