gan Anna Griffiths (Swyddog Datblygu Achlysurol)
Dros yr haf rwyf wedi cael y cyfle i weithio gyda Menter Iaith Fflint a Wrecsam, yn bennaf â’r prosiect ‘Haf o Hwyl’ yn Sir y Fflint. Trwy gydol yr haf rwyf wedi helpu swyddogion y Fenter i gynnal gweithgareddau hwyliog, llawn sbri trwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys ‘Drymio Jync’ gyda Colin Daimond, gweithdai gyda’r consuriwr Professor Llusern, a ddysgodd i ni sut i greu siapiau anifeilaidd gyda balwnau, a gwrando ar lond gwlad o straeon a chaneuon di-ri gyda Anni Llyn, Tudur Phillips a’r storïwr Ceri Phillips. Roeddem wedi cynnal nifer o weithgareddau ar draws yr ardal er mwyn rhoi cyfle i blant o bob cornel o’r sir ymuno yn yr hwyl a sbri. Does dim amheuaeth bod y blant wedi mwynhau’r cyfle i ddysgu sgiliau newydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau yn y Gymraeg yn arw. Cafodd y plant y cyfle unigryw i allu wneud ffrindiau newydd o ysgolion gwahanol a chymdeithasu gyda’i gilydd – eto yn y Gymraeg.
Er bod y sesiynau’n cael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg roedd digon o gefnogaeth a hyblygrwydd i sicrhau bod plant ac oedolion sy’n dysgu Cymraeg yn gallu cymryd rhan ac ymuno yn yr hwyl hefyd. Mae rhai o swyddogion newydd achlysurol y tîm hefyd yn ddysgwyr ac felly’n llawn ddeall y pwysigrwydd o greu awyrgylch diogel a charedig heb feirniadaeth! Trwy gymryd rhan a chwarae gemau amrywiol roedd y plant ail iaith yn dysgu’r geiriau Cymraeg am y lliwiau, rhifau a llawer mwy yn naturiol tra’n cael hwyl. Does dim amheuaeth gen i bod ymarfer y Gymraeg mewn awyrgylch o’r fath yn hynod o werthfawr er mwyn hyrwyddo’r iaith a’r diwylliant a sicrhau bod yr Iaith yn fyw i’r genhedlaeth nesaf. Roedd caniatáu ystod eang o oedrannau i ymuno yn golygu bod y teulu i gyd yn gallu ymuno yn y gweithgareddau llawn hwyl hyn gyda’i gilydd.



Erbyn diwedd y gwyliau roeddwn wedi dod i nabod nifer o’r plant a’r oedolion yn dda, gyda’r gweithgareddau yn amlwg wedi dod yn achlysur wythnosol mewn calendr nifer o’r teuluoedd. Roedd hyn yn golygu bod y plant yn teimlo’n fwy gyfforddus yn ystod y sesiwn gyda’u hyder i gymdeithasu yn Gymraeg gydag eraill yn cynyddu ac felly eu bod yn barod i ymuno yn y gweithgareddau ar eu liwt eu hunain yn hytrach na gyda’u rhieni. Gwelais nifer o ddatblygiadau gwych a chynnydd sylweddol yn sgiliau cyfathrebu y plant dros yr haf o ganlyniad i’r gweithgareddau hyn.
Uchafbwynt y profiad oedd y cyfle ges i hefyd i ddysgu sgiliau newydd. Cefais y cyfle i ddatrys problemau, a chyfathrebu gyda llawer o bobl o bob oedran ac o gefndiroedd gwahanol. Rwy’n astudio meddyginiaeth yn y brifysgol, felly bydd y sgiliau rwyf wedi eu dysgu, gan gynnwys cyfathrebu gyda’r cyhoedd, gweithio mewn tîm a gwrando ar eraill, o fudd mawr i mi. Rwyf hefyd wedi dysgu beth sydd angen ar gyfer gweithgareddau o’r fath a sut i baratoi ar eu cyfer, pethau fel cynnal asesiad risg, cael caniatâd i dynnu lluniau, cadw cofrestr o fynychwyr a llawer mwy. Yn ogystal â dysgu sgiliau byd gwaith roedd nifer helaeth o’r digwyddiadau yn ddoniol iawn gyda cyfle i gymryd rhan yn y gweithgareddau gwirion. Dwi dal yn chwerthin wrth feddwl am fy ffrind yn gwisgo gwisg mawr tedi bêr ar gyfer sesiynau Symud gyda Tedi!
Yn ogystal roedd gallu gweithio trwy gydol y dydd yn y Gymraeg yn wych! Ar ôl dychwelyd a byw adref dros y flwyddyn diwethaf, rwyf wedi gwerthfawrogi gallu siarad Cymraeg ym amlach ac roedd cael y cyfle unigryw o wneud hynny bob dydd yn anhygoel. Mae’r holl tîm wedi bod yn hynod o groesawgar gan sicrhau gweithle diogel ac effeithlon, ac yn bwysicach fyth, llawn hwyl. (Roeddwn hefyd wedi mwynhau’r tun llawn bisgedi sydd yn y swyddfa’n fawr!)
Rwy’n argymell gweithio neu wirfoddoli gyda Menter Iaith yn achlysurol i bawb sy’n gallu siarad neu sy’n dysgu Cymraeg. Mae’r profiad wedi bod yn un ardderchog ac rwyf wedi mwynhau gweld y datblygiadau yn sgiliau y plant a sgiliau fi fy hun. Dros fy nghyfnod o weithio gyda’r Fenter rwyf wedi creu ffrindiau di-ri a byddwn yn siŵr o gadw mewn cysylltiad. Rwy’n edrych ymlaen i allu ymuno â’r criw eto pan fyddaf adref o’r brifysgol dros wyliau’r Pasg a’r haf i ddod gan ddychwelyd nôl i’r swyddfa’n fuan!