Mae prosiect “Hapus i Siarad” yn rhoi cyfle i ddysgwyr Cymraeg gael sgwrs mewn busnes bach lleol sy’n hapus i siarad. Mae busnesau’n rhan bwysig o’n cymunedau a’n bywydau bob dydd ac felly’n lleoliadau gwych i siarad Cymraeg. Mae’r prosiect hwn yn beilot ar y cyd rhwng y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a’r Mentrau Iaith ac yn dechrau yn siroedd Rhondda Cynon Taf, Ceredigion a Fflint a Wrecsam.
Rhwng 15 Ionawr a 30 Mehefin 2024 mae’r dysgwyr yn cael cerdyn i gasglu stamp neu lofnod gan y busnes wrth iddyn nhw ymweld a chael sgwrs. Pan fydd y cerdyn yn llawn (dim ond 3 stamp sydd angen), byddan nhw’n mynd â’r cerdyn at ei diwtor neu anfon llun ohono atom ni a bydd y cerdyn yn rhan o raffl i ennill taleb i’r busnesau oedd yn rhan o’r prosiect yn yr ardal.
Os wyt ti’n dysgu Cymraeg ac am gymryd rhan yn y prosiect, cysyllta â ni (gwybod@menterfflintwrecsam.cymru) am fwy o wybodaeth ac i dderbyn cerdyn.
Dyma’r busnesau yn Yr Wyddgrug sy’n “Hapus i Siarad”:
- Siop y Siswrn – (Llun – Sadwrn 09:00 – 16:30 [ar gau Dydd Iau a Dydd Sul])
- Daniel Morris (Cigydd Teuluol) – (Mawrth – Sadwrn 09:00 – 17:00)
- P&L Homeworks – (Llun – Sadwrn 09:00 – 17:00)
- Flower’s by Anne – (Pan ar agor)
- Spaven’s – (Pan ar agor)
- Jane Davies – (Dydd Mawrth a Dydd Sadwrn)
- Florence & Company (Llun – Sadwrn 09:30 – 17:00)
- Caffi’r Cob – (9:00 – 11:00 ac ar ôl 14:00)
- Tafarndy Yr Wyddgrug – (Dydd Mercher a Dydd Sadwrn 14:00 – 22:00, Dydd Iau, Dydd Gwener a Dydd Sul 15:00 – 22:00)
- Yr Helfan – (Dydd Sadwrn 09:00 – 11:00 ac ar ôl 14:00)
Dyma’r busnesau yn Wrecsam sy’n “Hapus i Siarad”:
- Siop Siwan – (Pan ar agor)
- Canolfan Ymwelwyr Wrecsam – (Dydd Mawrth a Dydd Mercher 09:00 – 13:00)
- Pencilcraftsman – Arlunydd – (Pan ar agor)
- Xplore – (Edrychwch am y bathodyn oren yn ystod oriau agor)
- Llyfrgell Wrecsam
- Saith Seren Wrecsam (nos iau)
Mae’r busnesau sy’n rhan o’r cynllun yn arddangos y poster yma yn eu busnes. Felly, cadwa’r llygaid ar agor!
Os wyt ti’n rhedeg busnes bach neu yn gweithio mewn busnes ac am fod yn fusnes sy’n “Hapus i Siarad”, cysyllta â ni am sgwrs ac i dderbyn ein nwyddau.