Roedd ‘Stafell 1864, Y Cae Ras, Wrecsam o dan ei sang ar Nos Wener, Mehefin 8fed, 2018 wrth i Gamu ‘Mlaen gymryd lle.

Trefnwyd y noson o hwyl i deuluoedd gan Fenter Iaith Fflint a Wrecsam, ar gyfer lansio gwersi Cymraeg i rieni a fydd yn cael eu rhedeg gan Goleg Cambria dros yr wythnosau nesaf gyda chlwb i blant rhwng 5-11 oed gan yr Urdd ar yr un pryd.

Roedd llu o weithgareddau wedi’u trefnu ar gyfer y noson, gyda phlant o bob oed yn mwynhau eu hunain. Cafwyd paentio wynebau, modelu balŵns, crefftau, gweithdy syrcas, gweithgaredd bwa a saeth gan yr Urdd a gweithgareddau i rai bach gan Mudiad Meithrin a Cymraeg i Blant.

Ymwelwyr arbennig

Roedd DJ Bustach yno hefyd, yn diddanu pawb gyda cherddoriaeth Gymraeg a chafwyd perfformiad acwstic byw gan y band Synnwyr Cyffredin. Uchafbwynt y digwyddiad oedd ymweliad gan ein gwesteion arbennig; Magi Ann, Dewin a Mr Urdd ac ymunodd pawb mewn sesiwn canu.

Gwersi Cymraeg i deuluoedd

Mae’r cwrs rhagflas 5 wythnos o wersi Cymraeg i deuluoedd a gafodd ei lansio yn ystod y digwyddiad yn dechrau wythnos yma. Cyfuniad o wersi ffurfiol a chyfle i ddysgu’n anffurfiol drwy sgwrsio a chymdeithasu â phaned ar ddiwedd pob gwers yw’r cwrs.

Yn Sir y Fflint, mi fydd y gwersi yn dechrau yn Nghaffi Isa, Mynydd Isa ar nos Fawrth, Mehefin 12fed rhwng 4:00-6:00pm ac yn Ysgol Croes Atti, Fflint ar nos Fawrth, Mehefin 19eg rhwng 3:30-5:30pm.

Yna, yn ardal Wrecsam, bydd y gwersi yn dechrau nos Iau, Mehefin 14eg yng Nghanolfan Gymunedol Acton rhwng 4:00-6:00.p.m ac ym Mhlas Pentwyn, Coedpoeth rhwng 3:30-5:30yh ar yr un noson.

Gallwch gofrestru o flaen llaw i’r gwersi drwy ffonio 01978 267 596 neu gofrestru yn ystod y wers gyntaf.

Hoffai Menter Iaith Fflint a Wrecsam ddiolch yn fawr iawn i staff y Cae Ras, Wrecsam, am gael defnyddio eu cyfleusterau ac am baratoi bwffe ysgafn ar gyfer y digwyddiad. Diolch yn fawr iawn i Creeations am baentio wynebau, i Creak ‘n’ twist  am fodelu balwns, i Rascals Retreat am wneud gweithgareddau crefft, i Syrcas Cimera am y gweithdy syrcas ac i DJ Bustach a Synnwyr Cyffredin am yr adloniant cerddorol. Diolch yn arbennig hefyd i’r holl deuluoedd a fynychodd y noson.