Beth ydi Iaith ar Daith?
Mae Iaith ar Daith yn fis o ddigwyddiadau Cymraeg yn digwydd dros Sir y Fflint a Sir Wrecsam bob mis Mai. Dechreuodd Iaith ar Daith yn 2007 cyn Eisteddfod Genedlaethol Yr Wyddgrug fel wythnos i ddathlu’r iaith Gymraeg yn yr ardal. Wedi llwyddiant yr wythnos fe dyfodd Iaith ar Daith i gynnwys Sir Wrecsam, cyn tyfu eto i fod yn fis cyfan o ddigwyddiadau Cymraeg dros y ddwy sir bob mis Mai. Mae nifer o fudiadau adnabyddus yn cynnal gweithgareddau diddorol yn ystod Iaith ar Daith, gan gynnwys Menter Iaith, Coleg Cambria, Merched y Wawr, a’r Urdd.
Beth sy’n digwydd yn Iaith ar Daith?
Mae rhywbeth i bawb yn ystod mis Iaith ar Daith – sesiynau stori i blant bach a’u rhieni, sesiynau sgwrsio i’r rhai sy’n dysgu Cymraeg, nosweithiau o fandiau Cymraeg yng Ngŵyl Ffocws Cymru, gweithdai clocsio, a mwy!
Amserlen Iaith ar Daith 2017
Roedd amserlen orlawn ar gyfer Iaith ar Daith 2017, gydag o leiaf un gweithgaredd Cymraeg yn digwydd pob dydd trwy’r mis! Ydych chi’n gwybod am unrhyw fudiadau neu ddigwyddiadau Cymraeg yn lleol? Mae’r Fenter yn hapus iawn i helpu gyda hyrwyddo digwyddiadau sy’n digwydd yn Gymraeg neu dwyieithog – anfonwch neges arlein, codwch y ffôn ar 01352 744044, neu cysylltwch ar Facebook neu Twitter.