Ar fore Dydd Gwener, 5ed o Orffennaf, fe lansiwyd ap newydd, Tro ym Mhlas Newydd, Llangollen. Ap realiti estynedig o enwau lleoedd cynhenid ydi Tro.
Daeth y syniad o greu ap o enwau’r tirwedd i fodolaeth ar ddiwedd cynhadledd a gynhaliwyd yn enw Mynyddoedd Pawb rhyw ddwy flynedd yn ôl. Mynyddoedd Pawb, AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Cwmni Galactig sy’n gyfrifol am yr ap. Fe sicrhawyd grant Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r prosiect sydd hefyd yn cyd-weithio hefo Menter Iaith Sir Ddinbych a ni yma ym Menter Iaith Fflint a Wrecsam.
Llwybr Clawdd Offa
Mae Tro yn cynnwys rhan ogleddol o Lwybr Clawdd Offa o Brestatyn i’r Waun. Wrth gerdded bydd eich ffôn yn dirgrynu pan o fewn dalgylch penodol. Yna, mae modd i chi edrych ar yr olygfa trwy sgrin y ffôn er mwyn gweld enwau’r lleoedd yn ymddangos. Wrth roi eich bys ar yr enw ar y sgrin, clywir ynganiad a cheir ystyr a chefndir i bob enw.
Cafwyd cymorth gan Hywel Wyn Owen a defnyddiwyd llyfrau Dictionary of the Place Names of Wales, Hywel Wyn Owen a Richard Morgan a Placenames of Flintshire, Hywel Wyn Owen a Ken Lloyd Gruffydd wrth ddatblygu cynnwys yr ap.
Codi ymwybyddiaeth o dreftadaeth Gymraeg
Mae Mynyddoedd Pawb wedi bod yn ymgyrchu i gynyddu’r ymwybyddiaeth o’r dreftadaeth Gymraeg yn y maes awyr agored ers sawl blwyddyn. Meddai Mari Gwent o Mynyddoedd Pawb:
“Bydd yr ap yn cyflwyno’r Gymraeg a’i chyfoeth i bawb, yr enwau llefydd fydd yr allwedd i hynny. Gobeithiwn y bydd yr ap yn ysgogi diddordeb yn yr iaith, ac yn ennyn diddordeb ac ymwybyddiaeth o gyfoeth ein treftadaeth leol.”
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan:
“Mae gennym gynllun uchelgeisiol i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050. Er mwyn gwneud hyn, rhaid inni ei wneud mor hawdd â phosibl i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd. Dyna pam mae sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio technoleg ddigidol drwy gyfrwng y Gymraeg mor hanfodol.
Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu helpu i ariannu’r ap newydd hwn TRO sydd yn cael ei lansio heddiw. Dyma ddatblygiad cyffrous iawn sy’n caniatáu i gerddwyr archwilio enwau lleoedd ar draws tirweddau gogoneddus gogledd-ddwyrain Cymru mewn realiti cymysg ar eu dyfais ddigidol, hyn oll drwy gyfrwng y Gymraeg.”
I lawrlwytho’r ap ewch i wefan Tro.cymru cyn dechrau crwydro ar hyd Llwybr Clawdd Offa.