Parti Magi Ann
Mae rhai ohonoch siŵr o fod eisoes yn gyfarwydd â llyfrau darllen du a gwyn Magi Ann yn ogystal â’r apiau mewn lliw a ddatblygwyd gan Menter Iaith Fflint a Wrecsam, wedi’u seilio ar y llyfrau hynny, a enillodd wobr y Loteri Genedlaethol yn y Categori Addysgol yn 2017.
Mewn datblygiad newydd a chyffrous, rydym wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Chwmni Atebol wrth iddyn nhw ddiweddaru deg o lyfrau darllen Magi Ann a’u cyhoeddi mewn lliw. Fe ddathlwyd y datblygiad hyfryd hwn gyda pharti mawreddog i’r plant oedd ar y maes ar ddydd Llun cyntaf Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych. Roedd y digwyddiad yn cynnwys gweithgareddau celf a chrefft, cacennau bach a sesiwn stori a chân dan arweiniad hwyliog Professor Llusern. Dilynodd hyn gan lansiad swyddogol ar stondin Llywodraeth Cymru ar y pnawn Mercher, ble pwysleisiwyd pwysigrwydd adnoddau fel apiau gwreiddiol Magi Ann a’r llyfrau newydd wrth i ni i gyd weithio tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae’r llyfrau yn cynnwys elfennau newydd, megis sbardun trafod a thaflen gyda geirfa Saesneg sydd, ynghyd â’r cystrawennau syml a brawddegau ailadroddus, yn golygu eu bod yn adnodd addas i blant bach sydd yn siarad Cymraeg ac yn dysgu darllen ond hefyd i blant, rhieni, ac athrawon di-Gymraeg sy eisiau datblygu eu hyder wrth ddarllen.
Gallwch archebu llyfrau Newydd Magi Ann yn eich siop lyfrau leol, neu drwy wefan Atebol.




Parti Symud gyda Tedi
Nid Parti Magi Ann oedd yr unig ddathliad yn ystod wythnos brysur ar faes yr Eisteddfod chwaith gyda ffrind arbennig Magi Ann, Tedi, yn mentro ar ei liwt ei hun gan lansio cyfres o 16 fideo fer ‘Symud gyda Tedi’ i helpu teuluoedd gyda phlant ifanc gael hwyl tra’n cadw’n heini.
Yn ystod y parti bu un o sêr y fideos, y ddawnswraig a hyfforddwraig ffitrwydd Hanna Medi, arwain sesiwn fyw gan roi blas ar yr hyn sydd dal i ddod fel canlyniad i’r prosiect. Yn ogystal â’r sesiwn fywiog, cafwyd bob math o weithgareddau eraill gan gynnwys creu bathodynnau, helfa drysor a chyfle i weld y fideo gyntaf, am y tro cyntaf!
Gallwch wylio fideos newydd Symud gyda Tedi ar ein sianel YouTube neu dilyn anturiaethau Tedi ar Facebook.


