Brenhines yr apiau ar antur yn y ddinas fawr!
Yn ystod Seremoni Wobrwyo y Gwobrau Loteri Genedlaethol 2017 yn The London Studios, Llundain ar y 18fed o Fedi, derbyniodd Magi Ann a Menter Iaith Fflint a Wrecsam eu gwobr am ennill y Prosiect Addysg Gorau’r Gwobrau.
Yn ystod sesiwn Stori a Chân arbennig ddiwedd mis Awst, syfrdanwyd pawb yn Llyfrgell Wrecsam wrth i’r gantores enwog Cerys Matthews gyhoeddi bod apiau Magi Ann, yr unig brosiect iaith Gymraeg i gyrraedd y rownd derfynol wedi dod yn fuddugol yng nghategori Addysg y Gwobrau eleni.
Cyflwynodd y gantores enwog Kimberley Walsh tlws eiconig y Loteri iddynt yn y seremoni arbennig hon. Mae’r prosiect hefyd wedi derbyn rhodd ariannol o £5,000 er mwyn datblygu’r prosiect ymhellach.
Yn ei haraith buddugol, dywedodd Rhian Davies, Swyddog Cyfathrebu Menter Iaith Fflint a Wrecsam:
Pleser pur oedd cael arwain y prosiect ap Magi Ann i drosglwyddo’r Gymraeg i’r genhedlaeth nesaf. Diolch o galon i bawb a fu ynghlwm a’r prosiect, yn enwedig Anti Mena am greu’r cymeriadau gwreiddiol. Diolch hefyd i bawb a bleidleisiodd ac am gymryd Magi Ann i’ch calonnau ac i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am ein cefnogi ni a cymaint o brosiectau eraill.
Mae pob iaith fel cist trysor, a’r mwyaf o ieithoedd y siaradwch y cyfoethocach fydd eich bywyd. Hoffwn gyflwyno’r wobr hon i bawb sydd yn brwydro i ddiogelu dyfodol ein ieithoedd brodorol.
Ysgol Gymraeg Llundain
A chyn dychwelyd am adref, trefnodd brenhines yr apiau ymweliad arbennig ag Ysgol Gymraeg Llundain. Cafodd disgyblion yr ysgol eu diddanu ar fore’r 19eg o Fedi gyda sesiwn stori a chân gan Magi Ann a chriw Menter Iaith Fflint a Wrecsam. Roedd y plant wrth eu boddau ac wedi mwynhau cael cyfarfod Magi Ann am y tro cyntaf.