Mae Magi Ann wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau y Loteri Genedlaethol 2017!

Pam pleidleisio dros Magi Ann?

Mae dros 1,300 o brosiectau dros Brydain wedi gwneud cais am y gwobrau, ac mae apiau Magi Ann wedi cyrraedd y 7 olaf! Dyma’r unig brosiect iaith-Gymraeg sydd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau’r Loteri, a bydd yr enillydd yn derbyn sylw cenedlaethol ar y teledu gan y BBC. Dyma gyfle felly i roi’r iaith Gymraeg ar y map!

Stori Magi Ann

Magi Ann oedd hoff ddoli merch fach o’r enw Mena Evans. Ar ôl tyfu fyny, cafodd Mena waith fel athrawes yn Ysgol Gwenffrwd, Treffynnon. Er mwyn helpu’r plant bach i ddysgu darllen, aeth ati i ysgrifennu llyfrau Magi Ann a’i ffrindiau. Mae’r straeon yma nawr ar gael yn genedlaethol ac wedi animeiddio am y tro cyntaf ar apiau arloesol, i helpu plant heddiw (a’u rhieni) i ddysgu darllen yn Gymraeg. Dysgu mwy am Magi Ann.

Y prosiect

Yn 2014 daeth sefydliadau a gwirfoddolwyr lleol at ei gilydd i greu 6 ap i blant ifanc a fyddai ar gael am ddim. Gyda’i gilydd, mae’r apiau’n dal dros 50 o straeon a gemau syml ar gyfer teuluoedd ac ysgolion i helpu plant ddysgu darllen mewn ffordd rhyngweithiol a hwyl. Mae’r apiau hefyd yn ddelfrydol ar gyfer rhieni nad yw’n siarad Cymraeg eu hunain, neu oedolion sy’n dysgu’r iaith, gan fod modd tapio ar eiriau unigol i glywed sut i’w hynganu ac i weld cyfieithiadau Saesneg.

Meddai Marged Rhys ar ran Mentrau Iaith Cymru: “Mae Magi Ann bellach wedi gwneud ymddangosiadau mewn gwyliau a digwyddiadau ar hyd ac ar led y wlad, o Gaergybi i’r Fflint ac o’r Feni i Ben-y-bont ar Ogwr! Cysylltwch gyda’ch Menter Iaith leol am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau Magi Ann yn eich ardal chi. Mae’n hawdd iawn i bleidleisio, ac rydym yn gobeithio denu cefnogaeth genedlaethol i ymgyrch Magi Ann, er mwyn cydnabod y gwaith pwysig ac arloesol yma. Am ffordd wych o hyrwyddo’r Gymraeg a manteision dwyieithrwydd ar draws gwledydd Prydain. Pob lwc Magi Ann.”