Dathlu blwyddyn llwyddiannus i Magi Ann
Ar y 4ydd o Ragfyr, 2017, roedd Llyfrgell Treffynnon yn orlawn o blant a’u rhieni, neiniau a theidiau i gyd yn dathlu hwyl yr ŵyl gyda Magi Ann.
Bellach mae’r llyfrau hynny wedi’u haddasu i chwe o apiau lliwgar i helpu plant a’u rhieni i ddysgu darllen Cymraeg, nid yn unig yma yng Nghymru ond ar draws y byd i gyd. Yn dilyn ennill Gwobr Loteri Genedlaethol am y Prosiect Addysg Gorau’r Gwobrau eleni, mae’r apiau wedi’u lawrthwytho dros 150,000 o weithiau.
Ymwelwyr arbennig
Bu’r plant yn mwynhau gwledd o fwyd gyda amrywiaeth o frechdennau, creision, jeli a chacennau bach arbennig Magi Ann yn ystod y parti. Ond yn sicr, uchafbwynt y parti oedd ymweliad gan Magi Ann ei hun, ac er prysurdeb yr ŵyl cafwyd ymweliad gan y dyn ei hun, Siôn Corn. Cafwyd cyfle i ganu ambell gân Nadolig a chyn ffarwelio gyda’r ddau ymwelydd arbennig, derbyniodd pob plentyn anrheg i fynd adref gyda nhw gan Siôn Corn. I orffen y parti, cafodd y plant gyfle i wneud cardiau Nadolig a bathodynnau Magi Ann.
Dywedodd Rhian Davies, Swyddog Cyfathrebu Menter Iaith Fflint a Wrecsam:
“Mai wedi bod yn flwyddyn gyffrous i Magi Ann, a hithau wedi ennill Gwobr y Loteri Genedlaethol eleni, roeddem yn credu fod cynnal parti Nadolig Magi Ann yn ffordd berffaith o ddathlu’r llwyddiant hynny. Hoffem ddiolch i bawb a fynychodd y parti ac i bawb sydd wedi cefnogi Magi Ann dros y flwyddyn diwethaf. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr am 2018.”
Mae chwe ap Magi Ann ar gael i’w lawrlwytho am ddim o storfa apiau Google Play ac Itunes ac mae bosib dilyn hynt a helynt Magi Ann ar ei thudalen Facebook a Twitter.