Apiau Magi Ann a ddyfeiswyd gan Fenter Iaith Fflint a Wrecsam, yw’r ysbrydoliaeth y tu cefn i fersiwn cyfatebol newydd yn y Gernyweg sy’n cael ei lansio heddiw yn Truro, Cernyw, (Dydd Iau 31ain Ionawr, 11am – 12pm yn Lemon Quay).
Bwriad yr apiau Cymraeg yw helpu plant a theuluoedd i ddysgu darllen Cymraeg, ond erbyn hyn bydd yr apiau yn ysbrydoli cychwyn cadarn wrth ddysgu iaith i’r genhedlaeth nesaf o siaradwyr y Gernyweg.
Meithrin Partneriaeth
O ganlyniad uniongyrchol i’r bartneriaeth a gafodd ei meithrin gyda Menter Iaith Fflint a Wrecsam yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol 2017 yn Llundain, bydd arloeswyr diwylliannol Cernyw sef Golden Tree Productions yn dadorchuddio ap Magi Ann Kernewek (Cernyweg) newydd heddiw.
Mae’r un enw gan y fersiwn Gernyweg â’i chefnder Celtaidd ac mae’n cynnwys 12 o storïau syml i helpu’r genhedlaeth nesaf o siaradwyr y Gernyweg. Mae’r dadorchuddio heddiw yng Nghernyw yn ffurfio rhan o lansiad ehangach ‘Go Cornish’, adnodd ar-lein newydd gan Golden Tree Productions i addysgu a dysgu’r iaith Gernyweg. Bydd Magi Ann, prif gymeriad yr ap ynghyd â’r tîm sy’n gyfrifol am fersiwn Cymraeg yr apiau yn ymuno yn y dathliadau yng Nghernyw.
Mae ap Magi Ann yn dod â chyfres o lyfrau iaith Gymraeg traddodiadol o’r un enw yn fyw, a ysgrifennwyd yn wreiddiol gan Mena Evans, athrawes o Sir y Fflint. Mae’r ap rhyngweithiol animeiddiedig yn caniatáu i rieni tapio ar y gair i wybod sut i’w ynganu, ynghyd ag arddangos y cyfieithiad Saesneg.
Chwarter Miliwn o lawrlwythiadau
Llwyddodd apiau Cymraeg Magi Ann ennill y Wobr am y Prosiect Addysg Gorau’r DU yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol 2017- yr ymgyrch flynyddol i ddod o hyd i hoff achosion da’r DU a ariennir gan y Loteri Genedlaethol. Mae’r apiau Cymraeg yn dathlu llwyddiant ysgubol y mis hwn hefyd, wrth gael ei lawrlwytho dros chwarter miliwn o weithiau. Mae’r apiau Cymraeg yn cael eu defnyddio ar draws y byd, gyda theuluoedd o Japan i Batagonia ac o America i Sweden yn dysgu darllen Cymraeg gyda Magi Ann a’i ffrindiau.
Cafwyd y syniad o greu fersiwn Gernyweg o Magi Ann yn ystod Gwobrau’r Loteri Genedlaethol yn Llundain. Yma y cyfarfu’r tîm buddugol o Fenter Iaith Fflint a Wrecsam gyda’r tîm buddugol o Gernyw oedd yn gyfrifol am y Man Engine (sef y pyped mecanyddol teithiol mwyaf a adeiladwyd erioed ym Mhrydain) a enillodd brosiect Celfyddydol Gorau’r DU yn y seremoni.
Fel y mae Rhian Davies, Swyddog Cyfathrebu Menter Iaith Fflint a Wrecsam, yn ei gofio:
“Yn ystod y Gwobrau, daethom i adnabod Wil Coleman, crëwr y Man Engine a’i dîm o Golden Tree Productions a oedd y tu cefn i’r prosiect. Roedden ni’n cyd-dynnu’n dda ac esboniodd Wil ei fod yn siarad y Gernyweg. Wedi’r Gwobrau, ac fel y byddwch yn ei wneud fel cyd-Geltiaid, roeddem oll i fyny yn hwyr yn dawnsio a chanu caneuon gyda’n gilydd yn y Gymraeg a’r Gernyweg. Daethom i’r sylweddoliad fod llawer gennym yn gyffredin a dyna pryd y gwnaeth y syniad o greu ap Magi Ann Kernewek (Cernyweg) ddwyn ffrwyth. Datblygodd pethau’n gyflym o’r fan honno ac rydym wedi cael mynegiadau o ddiddordeb ers hynny o fannau eraill yn Ewrop megis Llydaw yng ngogledd Ffrainc am ddatblygu fersiwn yr iaith Lydaweg o’r ap. Does dim pen draw o ran pa mor bell y gall Magi Ann ysbrydoli pobl i gynnal a diogelu ieithoedd lleiafrifol.”
Dywedodd Will Coleman, Cyfarwyddwr Artistig ar ran Golden Tree Productions:
“Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda thîm Magi Ann i greu’r ap Magi Ann Kernewek, ar gyfer addysgu plant cyn-oed ysgol, plant meithrin a theuluoedd. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Loteri Genedlaethol am wneud y berthynas hon yn bosibl, ac mae’r ap hwn, ynghyd â gwefan newydd Go Cornish, eisoes yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr yr iaith Gernyweg.”
Mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn un o rwydwaith o 22 Menter Iaith sy’n gweithio i gryfhau ac atgyfnerthu’r defnydd o’r Gymraeg yn ein cymunedau led led Cymru.
Dywedodd Lowri Jones, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru:
“Rydym yn falch iawn i weld yr ap a gynhyrchwyd gan y Fenter Iaith leol yn cael ei ddatblygu a’i ddefnyddio i hyrwyddo iaith leiafrifol arall. Mae llwyddiant apiau Magi Ann yn arddangos pŵer technoleg wrth ddatblygu dwyieithrwydd yn y cartref. Mae hefyd yn cydnabod gwaith caled y Fenter Iaith trwy ddynodi angen o fewn y gymuned leol. Mae cydnabod ac ateb anghenion cymunedau yn tanategu gwaith y mentrau iaith lleol wrth gynyddu ac atgyfnerthu’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn ein cymunedau.”
Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:
“Trwy gefnogi datblygu ap Magi Ann, mae arian y Loteri Genedlaethol wedi galluogi rhieni a phlant yng Nghymru ac ymhellach draw i fwynhau dysgu Cymraeg gyda’i gilydd. Mae’n wych gweld fod y prosiect hwn sydd wedi ennill gwobr yn cefnogi ieithoedd lleiafrifol eraill yn awr ac yn ysbrydoli’r genedlaethol nesaf o siaradwyr y Gernyweg. Mae’r prosiect hwn yn enghraifft ragorol o sut y gall symiau bach o arian wneud gwahaniaeth wirioneddol fawr.”
Mae apiau Magi Ann yn y Gymraeg a’r Gernyweg ar gael i lawrlwytho drwy ddilyn y dolenni isod: