Mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam wedi cyrraedd rhestr fer un o gategori gwobrau’r Mentrau Iaith, fydd yn cael eu cynnal am y tro cyntaf erioed ar Ionawr 22ain er mwyn dathlu gwaith arbennig y rhwydwaith wrth hyrwyddo a chynyddu defnydd o’r Gymraeg mewn cymunedau yng Nghymru.
Mae’r mudiad, sydd yn gweithio gyda phobl o bob oed i hyrwyddo a chynyddu defnydd o’r Gymraeg o fewn cymunedau’r ardal, wedi cyrraedd y 3 uchaf yng nghategori ‘Technoleg’ gyda’u apiau ‘Magi Ann’.
Magi Ann
Cyfres o 6 ap ar gael i’w lawrlwytho am ddim oddi ar Storfa apiau iTunes a Play Store yw apiau Magi Ann. Mae’r apiau, sydd yn defnyddio storïau syml a lliwgar a gemau i helpu plant i ddysgu darllen mewn modd hwyliog a rhyngweithiol yn adnoddau gwych i blant bach sydd yn siarad Cymraeg yn barod, neu’n dysgu Cymraeg fel ail iaith, ac i rieni ac athrawon sydd eisiau dysgu’r iaith neu eisiau helpu eu plant i ddysgu.
Mae prif gymeriad y straeon, Magi Ann, bellach wedi’i mabwysiadu fel cymeriad cenedlaethol yr holl Fentrau Iaith, hefyd yn ‘byw’ tu hwnt i’r ap gan ymweld â phartïon, ysgolion, diwrnodau hwyl i’r teulu a mwy.
Dywed Gill Stephen, Prif Swyddog Menter Iaith Fflint a Wrecsam;
“Rydym wrth ein boddau ein bod wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau’r Mentrau Iaith – mae hyn yn newyddion gwych. Oherwydd eu cysylltiadau agos iawn â’r gymuned leol mae’r Mentrau Iaith mewn sefyllfa unigryw i greu adnoddau addas ar gyfer anghenion yr ardaloedd maent yn gweithio ynddyn nhw. Mae’r enwebiad hwn yn deyrnged i’r gymuned leol yma sydd wedi ein cefnogi ac wedi bod yn gymorth amhrisiadwy wrth ddatblygu’r adnodd.”
Ychwanegodd:
“Mae apiau Magi Ann yn adnodd gwych i blant sy’n dysgu darllen Cymraeg, boed hwnnw’n famiaith neu’n ail-iaith iddynt, ac wedi profi’n boblogaidd gydag ysgolion a meithrinfeydd yn ogystal â theuluoedd. Rydym wedi syfrdanu gyda llwyddiant Magi Ann. Mae’r apiau bellach wedi eu lawr lwytho ymhell dros chwarter miliwn o weithiau, sydd yn destament i werth ac angen adnoddau o’r fath.”
Noson Dathlu’r Mentrau Iaith
Ynghyd â chategorïau ‘Cydweithio’, ‘Digwyddiad’, ‘Datblygu Cymunedol’ a ‘Gwirfoddoli’, bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn Noson Dathlu’r Mentrau Iaith yng Ngwesty’r Marine Aberystwyth ar Ionawr 22ain, 2020.
Mae’r Mentrau Iaith yn gweithio i gryfhau’r defnydd o’r Gymraeg mewn cymunedau dros Gymru a’n ceisio cynyddu’r nifer o siaradwyr i filiwn erbyn 2050 yn dilyn strategaeth Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan:
“Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cael eu henwebu i dderbyn gwobr. Rydyn ni’n buddsoddi dros £2.5 miliwn yn y Mentrau Iaith drwy’r Grant Hybu a Hyrwyddo’r Gymraeg. Heb gymorth gwirfoddolwyr, ni fydd modd i’r Mentrau Iaith gynnig yr amrywiaeth helaeth o ddigwyddiadau trwy Gymru i gyd. Mae’r digwyddiadau ac ymyraethau hyn yn holl bwysig wrth sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg. Diolch i bawb am eu hymroddiad.”
Am fwy o wybodaeth am y noson, ewch draw i wefan Mentrau Iaith Cymru.