Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Menter Iaith Fflint a Wrecsam ar Nos Wener 9fed o Chwefror, 2018 am 6:00.p.m yn:
Ystafell B07,
Llawr Gwaelod,
Prifysgol Glyndŵr,
Ffordd Yr Wyddgrug,
Wrecsam,
LL11 2AW.

Bydd cyfle i chi siarad â staff a Chyfarwyddwr y Fenter a thrafod eich syniadau am y math o weithgareddau neu brosiectau yr hoffech ein gweld ni’n darparu yn y dyfodol.

Os hoffech dderbyn copi o Agenda, Cofnodion, Cyfrifon ac Adroddiad Blynyddol diweddaraf Menter Iaith Fflint a Wrecsam, cysylltwch â ni.

Buasem yn ddiolchgar petaech yn medru cadarnhau os yr ydych yn bwriadu bod yn bresennol ai peidio, drwy e-bostio, gwen@menterfflintwrecsam.cymru neu ffonio 01352 744 040.

Croeso cynnes i chi gyd!