IAITH AR DAITH SIR Y FFLINT A WRECSAM 2018
01/05/18-31/05/18
Am y deuddegfed tro eleni, bydd Sioredd y Fflint a Wrecsam yn dathlu “Iaith ar Daith” drwy gydol mis Mai. Mis o weithgareddau Cymraeg o bob math yw “Iaith ar Daith”.
Mae calendr gorlawn o ddigwyddiadau ar y gweill, o fore Llanast Llawen i fabanod a sesiwn blasu Sblash a Chân i Noson Hwyl a Chân yng nghwmni Gwilym Bowen Rhys a Sioe Glybiau newydd Theatr Bara Caws. O ddisgo i blant ysgolion cynradd i Noson Cwis, Canu, Cwrw i nosweithiau cwis a gigs yn Saith Seren.
Hyrwyddo’r Gymraeg
Meddai Rhian Davies, Swyddog Cyfathrebu Menter Iaith Fflint a Wrecsam,
“Bwriad yr ymgyrch yw hyrwyddo’r Gymraeg ar draws y ddwy Sir, mewn ysgolion, cymunedau a gweithleoedd a gyda Chymry Cymraeg, dysgwyr a phobl ddi-gymraeg. Mae’r daith yn gyfle i holl bartneriaid iaith y sir ddod at ei gilydd i godi ymwybyddiaeth o iaith a diwylliant Cymru. Mae rhywbeth at ddant pawb!”
Ychwanegodd,
“Ein nod yw tynnu sylw at yr holl bethau sy’n digwydd yn lleol trwy gyfrwng y Gymraeg yn barod, lansio pethau newydd a threfnu ambell i ddigwyddiad arbennig er mwyn dathlu Cymreictod byrlymus Gogledd Ddwyrain Cymru.
Mae gan nifer y camsyniad fod hwn yn ardal Seisnig iawn, ond fel y gwelwch o galendr gweithgareddau Iaith ar Daith 2018, mae modd i rywun fod allan bob noson o’r wythnos pe dymunent yn cymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg.”
Am fwy o fanylion neu am gopi papur o’r daflen e-bostiwch Rhian neu ffoniwch 01352 744 040.