Mae Helo Blod yn cefnogi busnesau bach i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn eu busnes trwy ddarparu gwasanaeth cyfieithu hwylus a chefnogaeth bersonol, sef Helo Blod Lleol.
Wyt ti’n rhedeg busnes? Oes gen ti ddiddordeb mewn rhwydweithio gyda busnesau eraill drwy’r Gymraeg neu yn ddwyieithog? Dyma gyfle i gwrdd â busnesau newydd a chysylltiadau newydd.
Os wyt ti’n dysgu Cymraeg, yn siaradwr mamiaith Gymraeg neu heb siarad ers dyddiau’r ysgol- ‘dan ni eisiau dy gefnogi di trwy roi platfform diogel ac arbennig i ti allu cwrdd â busnesau eraill yn y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Cei di ddefnyddio cymaint neu cyn lleied ag wyt ti’n hapus i’w ddefnyddio. Rydym eisiau dy gefnogi di ac i ti deimlo’n gyfforddus.
Rydym yn dechrau fel peilot yn y gogledd ddwyrain a’r de orllewin ym mis Ionawr i weld sut mae’n mynd. Bydd y rhwydwaith yn cael ei gynnal trwy MS Teams neu Zoom.
Er mwyn i ni fesur y galw ac ei drefnu i dy siwtio di, basen ni’n gwerthfawrogi taset ti’n llenwi ein holiadur byr hwn erbyn Dydd Llun, 30ain o Dachwedd.