Croeso Cynnes Cymraeg ym MhenBarLag

Rhwng Medi’r 14eg i’r 16eg 2018, cynhaliwyd y bumed wŷl ‘The Good Life Experience’ yn Hawraden Estate, Penarlag, Sir y Fflint. Mae hon yn ŵyl sy’n ymfalchio yn ei hunigrywiaeth ac yn gyfuniad perffaith o gerddoriaeth byw, diwylliant, bwyd a chrefft.

Un o gyd-sylfaenwyr yr ŵyl yw’r gantores a chyflwynwraig enwog, Cerys Matthews MBE. Eleni am y tro cyntaf fe gyflwynodd Cerys babell newydd i’r ŵyl. Drwy chwarae gyda’r enw Cymraeg am Hawarden a’r ffaith bod bar yn gwerthu cwrw crefft Cymreig ‘Cwrw Sir y Fflint’, bathodd Cerys y term ‘PenBarLag’ ar y babell newydd hon. Yn syml, tipi, llwyfan Cymraeg a Chymreig ac ardal Cymreig ei naws oedd PenBarLag.

Gweithgareddau i’r holl deulu

Cyd-weithiodd Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn agos iawn gyda’r ŵyl i sicrhau amserlen llawn gweithgareddau ar gyfer babanod, plant a theuluoedd yn ystod y boreau ac amser cinio.

Hawdd iawn yw anghofio am deuluoedd ifanc mewn gwyliau ond gyda sesiynau Amser Babi Cymraeg, stori a chân yng nghwmni Magi Ann, sioeau hud a lledrith a pwnsh a Siwan gan Professor Llusern a disgo distaw gydag amrywiaeth o gerddoriaeth Cymraeg gan fandiau o Gymru llwyddwyd diddanu plant o bob oed.

Trefnodd y Fenter sawl gweithdy clocsio, perfformiad gan y band gwerin Pentennyn a gwersi Cymraeg yn y babell hefyd a’r cyfan oll yn rhoi blas i fynychwyr yr ŵyl o’r Gymraeg a’r diwylliant Cymreig.

Roedd PenBarLag o dan ei sang trwy gydol y penwythnos a hoffai Menter Iaith Fflint a Wrecsam ddiolch yn fawr i’r ŵyl am ei chydweithred ac i bawb ddaeth draw i PenBarLag yn ystod y penwythnos.