Tric Hud i’r Mentrau Iaith gan Broffesor Llusern

 

Mis Mehefin eleni, ymunodd Chris Baglin ein tîm yma ym Menter Iaith Fflint a Wrecsam. Mae Chris yn Swyddog Datblygu i’r Fenter ond caiff ei adnabod hefyd fel Porffesor Llusern. Ers blynyddoedd bellach mae’n adnabyddus ym myd yr hud a lledrith yng Nghymru ac ar gael i ddod i’ch digwyddiadau a gweithgareddau chi boed yn barti penblwydd i blentyn neu yn Seans Fictoraidd i oedolion.

Yn ddiweddar, cafodd criw o Swyddogion Maes Mentrau Iaith y Gogledd eu syfrdanu gan Broffesor Llusern wrth iddo ddangos tric cardiau iddynt mewn cyfarfod yng Ngwersyll Glan Llyn, Llanuwchllyn.