Mae’r proffiliau yma wedi’u llunio gan Menter Iaith Fflint a Wrecsam, fel diweddariad i’r Proffil Iaith a gyhoeddwyd yn 2015 yn dilyn gwaith ymchwil ac ymgynghori dwys gan Gwmni Sbectrwm a ddiweddarwyd yn 2018 gan staff y Fenter. Gyda 10 mlynedd ers y cyfrifiad diwethaf bydd cyhoeddi proffil newydd, yn seiliedig ar y cyfrifiad eleni (Mawrth 2021), yn bosib yn fuan. Yn y cyfamser mae’n bwysig nodi mai dogfen fyw sydd yma, a bydd diweddariadau cyson iddi wrth i ystadegau newydd ddod i law. Nod y proffiliau yw rhoi darlun cyfredol a chynhwysfawr o sefyllfa’r Gymraeg yn siroedd y Fflint a Wrecsam. Byddant hefyd yn ein galluogi ni i gynllunio’n effeithiol ac ystyried mesurau i liniaru effeithiau Covid-19 ar ein cymunedau a’r iaith. Byddant yn allweddol er mwyn gallu cydnabod y newidiadau a dadansoddi eu heffeithiau ar wydnwch y Gymraeg a’i defnyddwyr. Bydd y proffiliau yn rhoi sylfaen i baratoi a datblygu cynlluniau gwaith a strategaethau’r dyfodol ac yn creu darlun o ba ymyraethau sydd eu hangen i sicrhau ffyniant y Gymraeg.
I ddod o hyd i’r proffil, cliciwch yma: