Croesawu aelod newydd i dîm Menter Iaith Fflint a Wrecsam
Ers dechrau mis Mai, mae Cadi Dafydd o Gyffylliog, ger Rhuthun bellach yn gweithio fel Swyddog Datbylgu prosiect newydd i’r Fenter, ‘Prosiect Datblygu Cymunedau Dwyieithog.’ Cyllidwyd y prosiect newydd hwn drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru- Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariannnir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Helpu Cymunedau
Diben y prosiect yw helpu cymunedau i sefydlu grwpiau cymunedol neu gynnig cymorth i grwpiau sydd eisoes yn bodoli. Bydd y grwpiau yn cynnal digwyddiadau er mwyn cynyddu defnydd o’r Gymraeg yn eu hardaloedd lleol. Mi fydd y Swyddog Datblygu ym mynychu’r cyfarfodydd i gynnig cymorth ble bydd angen, gan gynnwys cymorth wrth geisio am grantiau.
Mae manteision a sawl rheswm i fynd ati i sefydlu grŵp cymunedol o’r fath gan gynnwys:
- Creu mwy o weithgareddau a chyfleoedd i gymdeithasu yn eich cymuned.
- Magu sgiliau cyfathrebu llafar.
- Gweithio gyda phlant a phobl o bob oed.
- Cael y cyfle i ymarfer eich Cymraeg a theimlo’n gyfforddus wrth wneud hynny.
- Cyfarfod â phobl newydd.
- Datblygu sgiliau newydd.
Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn gymdeithasol
Meddai Cadi Dafydd, Swyddog Prosiect Datblygu Cymunedau Dwyieithog Menter Iaith Fflint a Wrecsam:
“Dwi’n edrych ymlaen i weithio i’r Fenter a dod i adnabod y cymunedau lleol, gan roi cymorth i grwpiau sydd eisoes yn bodoli a gweithio mewn ardaloedd i sefydlu grwpiau o’r newydd. Rwyf yn awyddus i gynnig a rhoi cymorth i gymunedau ddeall, dehongli a dathlu eu cymunedau a’u Cymreictod. Teimlaf ei bod yn bwysig cefnogi ardaloedd lle nad oes grwpiau sydd eisoes yn bodoli a sicrhau darpariaeth a chymorth Cymraeg i bawb o bob cefndir ieithyddol.
Rwyf yn awyddus i roi cyfleoedd i bawb; boed yn siaradwyr Cymraeg, dysgwyr Cymraeg neu unigolion di-gymraeg o fewn cymunedau i gyfathrebu a chymdeithasu gyda’i gilydd er mwyn cynyddu’r defnydd o’r iaith yn gymdeithasol. Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb, a mae’n bwysig pwysleisio mai nid iaith y dosbarth yw’r Gymraeg yn unig, a bod cyfleoedd ar gael i hamddena drwy’r Gymraeg.
Cadwch olwg allan am unrhyw ddigwyddiadau sydd gan y Fenter, a chofiwch os welwch chi fi o gwmpas dewch i ddweud helo.”
Os oes gennych ddiddordeb neu os hoffech fwy o wybodaeth am sefydlu neu bod yn rhan o grŵp yn eich ardal chi, ebostiwch Cadi neu ffoniwch ein swyddfa ar 01352 744 040.