Symud Gyda Tedi

Symud Gyda Tedi yw prosiect newydd, cyffrous gan Fenter Iaith Fflint a Wrecsam
Cyllidwyd y prosiect hwn gan Gronfa’r Loteri Fawr a Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru- Rhaglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datgblygu Gwledig.
Bydd y prosiect yn cefnogi polisiau Llywodraeth Cymru i annog mwy o blant i wneud ymarfer corff a chadw’n heini, yn ogystal â hybu’r defnydd o’r Gymraeg a chefnogi strategaeth iaith Llywodraeth Cymru, ‘Cymraeg 2050’.
Pwy ydi Tedi?
Mae tedi yn un o brif gymeriadau straeon Magi Ann, ac yn ffefryn ymysg y plant. Cafodd y cymeriadau hoffus i gyd eu creu yn 1970au gan yr athrawes Mena Evans, ac erbyn heddiw mae llyfrau, ac yn fwy diweddar apiau Magi Ann wedi helpu miloedd o blant yng Nghymru i ddysgu darllen yn y Gymraeg. Lawrlwythwch apiau Straeon Magi Ann AM DDIM i’ch ffôn symudol, tabled neu gyfrifiadur drwy Storfa Apiau iTunes a Play Store.
Beth yw Symud Gyda Tedi?
- Sesiynau cadw’n heini ar gyfer plant bach a’u teuluoedd drwy ddefnydd o stori a chân.
- Sesiynau dwyieithog i annog defnydd o’r Gymraeg.
- Bydd sianel YouTube i alluogi’r plant a’u teuluoedd i ddilyn y sesiynau yn eu cartrefi, y feithrinfa, neu’r ysgol.
- Bydd y sesiynau wedi’u seilio ar straeon Magi Ann.
- Bydd y sesiynau rhwng 30 i 40 munud o hyd.
- Bydd y sesiynau yn gyfle i deuluoedd gyfarfod pobl newydd a gwneud ffrindiau oes.
- Prif nod y prosiect yw sicrhau y bydd pawb yn cael HWYL wrth gymryd rhan!
Cd ‘Symud gyda Tedi’
Fe fydd Cd ‘Symud gyda Tedi’ yn chwarae rhan blaenllaw yn y prosiect, a mae’r Fenter yn hynod ddiolchgar i Mudiad Meithrin am eu cefnogaeth.
Anturiaethau Tedi yn ystod y Cyfnod Clo
Cynhaliwyd rhywfaint o sesiynau Symud gyda Tedi ddechrau’r flwyddyn yn ardal Wrecsam ond o ganlyniad i’r cyfyngiadau yng Nghymru yn sgil Covid-19, roedd rhaid i’r sesiynau hyn ddod i ben am y tro a bu’n rhaid i’r prosiect addasu a gweithio i gyrraedd y gymuned mewn ffyrdd gwahanol.
Bellach mae gan Symud gyda Tedi dudalen Facebook ei hun, ac mae modd dilyn ei hynt a helynt yn ystod y cyfnod clo yno. Ar y dudalen hon, mae modd i blant bach a’u teuluoedd gael blas ar sut byddai mynychu’r sesiynau go iawn drwy’r wylio fideos a chymryd rhan mewn sesiynau ’10 munud o Symud gyda Tedi’ yn eu cartrefi eu hunain. Mae’r fideos hefyd ar gael ar sianel YouTube neu dudalen Facebook Menter Iaith Fflint a Wrecsam.
Mae ‘Tyfu gyda Tedi’ wedi datblygu yn ystod y cyfnod clo hefyd, gyda Tedi yn rhoi cynnig ar blannu a thyfu blodau a phlanhigion ac annog plant i wneud yr un peth hefyd gan dreulio mwy o amser tu allan a gwerthfawrogi byd natur a’r amgylchedd o’u cwmpas.
Am fwy o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â Glesni Lloyd, Swyddog Datblygu Prosiect Symud gyda Tedi:
Ebost: glesni@menterfflintwrecsam.cymru
Ffôn: 01352 744 040