Mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn edrych ymlaen yn fawr iawn i groesawu Ras yr Iaith i Wrecsam Dydd Mercher, 4ydd o Orffennaf.
Mae Ras yr Iaith yn cael ei chynnal bob yn ail flwyddyn a hynny i godi arian i brosiectau a gweithgareddau Cymraeg, ac eleni mae’r Ras yn fwy nag erioed o’r blaen. Mi fydd y ras yn ymweld ag ardaloedd ar hyd a lled Cymru gyda dros 15 o gymunedau ar draws y wlad yn cymryd rhan.
Eleni, fydd y tro cyntaf i’r Ras ymweld â Gogledd Ddwyrain Cymru, a Wrecsam sydd yn cael y fraint o ddechrau’r Ras ar ran y genedl i gyd. Bydd cymal Wrecsam o’r Ras, sydd oddeutu milltir o hyd o amgylch canol tref Wrecsam yn dechrau am 9.30am o Lwyn Isaf, ger Neuadd y Dref.
Tywydd poeth
Mi fydd digon o gyflenwad dŵr i bawb sydd yn rhedeg y Ras ar y diwedd, ond gyda’r tywydd poeth yn debygol o barhau, rydym yn annog pawb i ddod a photel dŵr eu hunain hefyd. Anogir pawb hefyd i wisgo het addas a digonedd o eli haul.
Noddwyr
Hoffem ddiolch yn fawr iawn i ddau o fusnesau lleol sydd eisoes wedi noddi Cymal Wrecsam o’r Ras. Diolch yn fawr iawn i Professor Llusern ac i Amser Babi Cymraeg am eu cefnogaeth. Diolch hefyd i Brifysgol Glyndŵr, Wrecsam a Changen Glyndŵr Coleg Cymraeg Cenedaethol am eu nawdd tuag at y Cymal. Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth. I unrhyw un arall sydd â diddordeb noddi ond heb wneud eto, mae dal cyfle i chi wneud hynny. Ffurflen noddi i’w gweld isod.
Ymuno yn yr hwyl
Os hoffech chi ymuno yn yr hwyl neu eisiau mwy o fanylion am gymal Wrecsam o Ras yr Iaith, cysylltwch drwy ebostio chris@menterffintwrecsam.cymru neu ffonio 01352 744 040.
A chofiwch, os ydych chi’n dod i gefnogi neu’n rhedeg y Ras, gwisgwch liwiau’r Ras sef melyn, coch a gwyrdd. Rydym yn edrych ymlaen i’ch gweld chi gyd yno.