Ar Nos Iau, 14eg o Dachwedd cynhaliodd Menter Iaith Fflint a Wrecsam Noson Swisho yng Nghlwb Rygbi’r Wyddgrug.
Noson hwyliog oedd hon, lle roedd cyfle i unigolion ddod â dillad, esgidiau, bagiau a gemwaith nad oeddent yn eu gwisgo bellach er mwyn eu cyfnewid am eitemau newydd. Braf oedd gweld y Clwb Rygbi’n llawn wrth i fynychwyr fynd ati i ddiweddaru eu cwpwrdd dillad a hynny heb orfod gwario ceiniog gan bod y noson am ddim.
Byw’n Gynaliadwy
Gyda phwyslais cynyddol ar achosion a chanlyniadau newid hinsawdd a sut i fyw’n fwy cynaliadwy, roedd y Fenter yn gweld y digwyddiad fel ffordd wych o leihau gwastraff a hyrwyddo cynaliadwyedd ac ail ddefnyddio ymysg y gymuned.
Ynghyd â chyfnewid dillad, cafodd mynychwyr hefyd gyfle i brynu hwdis a chrysau t gan gwmni Cowbois ac i fwynhau adloniant gan Gôr Lleisiau Clywedog dros wydryn o brosecco. Ar ddiwedd y noson, rhoddwyd y dillad oedd dros ben i elusen lleol, sef Tŷ’r Eos.
Prosiect Datblygu Cymunedau Dwyieithog
Trefnwyd y noson drwy Brosiect Datblygu Cymunedau Dwyieithog, un o brosiectau’r Fenter, sy’n helpu sefydlu grwpiau cymunedol neu’n cynnig cymorth i grwpiau sydd eisoes yn bodoli gyda’r nod o’u hannog i gynnal digwyddiadau er mwyn cynyddu defnydd y Gymraeg yn eu hardaloedd lleol.
Cyllidwyd y prosiect hwn gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014- 2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Roedd y Noson Swisho’n fodd o hyrwyddo’r prosiect a dangos i gymunedau eraill y math o ddigwyddiadau y gellir eu cynnal drwy gymorth y Prosiect.
Digwyddiadau Amrywiol
Dywed Cadi Dafydd, Swyddog Datblygu Cymunedau Dwyieithog Menter Iaith Fflint a Wrecsam:
“Dros y misoedd diwethaf ‘dwi wedi bod yn cynnig cymorth i greu grwpiau cymunedol o’r newydd a chynnig cymorth i grwpiau cymunedol sydd eisoes yn bodoli i gynnal digwyddiadau yn eu hardaloedd nhw.
Mae’r digwyddiadau wedi bod yn amrywiol iawn gan gynnwys: prynhawn hwyl i’r teulu, sesiynau gwneud doliau ŷd, te prynhawn a sesiynau crefft. ‘Dwi hyd yn oed ar fin cynnig cymorth i grŵp sydd am greu perllan gymunedol!
Mae posibiliadau diddiwedd a fy ngobaith drwy gynnal Noson Swisho yw ei fod wedi dangos i gymunedau y math o ddigwyddiadau sydd ar gael iddynt drwy’r prosiect.”
Os hoffech wybod mwy am Brosiect Datblygu Cymunedau Dwyieithog, cysylltwch â Cadi Dafydd drwy ebostio cadi@menterfflintwrecsam.cymru neu ffonio 01352 744 040.