Teitl y Swydd: Swyddog Datblygu Cymunedau Dwyieithog
Swydd rhan amser am gyfnod penodol o ddwy flynedd
Mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam, mewn partneriaeth â Chadwyn Clwyd a Chyngor Sir y Fflint yn chwilio am Swyddog Datblygu Cymunedau Dwyieithog i arwain ar brosiect sefydlu a chefnogi nifer o grwpiau cymunedol (Pwyllgorau Ardal) fydd yn datblygu rhaglen o weithgareddau penodol cyfrwng Cymraeg er budd trigolion yr ardal. Mae’r gallu i ryngweithio a gweithio’n annibynnol yn bwysig.
Cyflog:
£22,400 – £23,700 pro rata (yn ddibynnol ar brofiad a sgiliau) + cyfraniad pensiwn
Oriau Gwaith:
18.5 awr yr wythnos
Dyddiad Cau:
Hanner dydd, Dydd Llun, 04/02/19
Am sgwrs anffurfiol neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â Gill Stephen (Prif Swyddog). Ffurflen gais i’w gweld isod.