Teitl y Swydd: Swyddog Datblygu Prosiect Symud Gyda Tedi

Cyflog:

£23,700- £24,200 (yn ddibynnol ar brofiad a sgiliau)+ cyfraniad pensiwn

Oriau Gwaith:

Ar hyn o bryd rydym yn rhagweld swydd llawn amser (37 awr yr wythnos) am gyfnod penodol o flwyddyn. Serch hynny rydym yn fodlon ystyried patrwm gwaith gwahanol gan gynnwys rhan-amser am gyfnod hirach. Croesawir ceisiadau am secondiadau.

Prif ròl:

Mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam, mewn partneriaeth â Chadwyn Clwyd a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn chwilio am Swyddog i arwain ar brosiect cynllun newydd sbon ni blant o dan oed ysgol. Nod y prosiect yw datblygu cyfres o sesiynau stori, cân a chadw’n heini gan eu recordio fel y gall teuluoedd neu blant ddilyn y sesiwn yn eu cartrefi, yn y feithrinfa, neu yn yr ysgol. Y gallu i ymwnued â phobl, cyfathrebu’n effeithiol a gweithio’n annibynnol yn bwysig.

Lleoliad:

Yr Wyddgrug

Dyddiad Cau:

Hanner dydd, Dydd Llun, 09/09/2019

Am sgwrs anffurfiol neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â Gill Stephen (Prif Swyddog). Ffurflen gais i’w gweld isod.