Teitl y Swydd: Swyddog Datblygu

Cyflog:

£18,070- £20,253 y flwyddyn (yn ddibynnol ar brofiad a sgiliau)+ cyfraniad pensiwn

Oriau Gwaith:

37 awr yr wythnos

Bydd disgwyl i’r sawl a benodir weithio oriau anghymdeithasol yn unol â galwadau gwaith ar adegau. Cynigir amser yn lle hynny (TOIL) drwy gytundeb â’r Prif Swyddog.

Hyd contract:

Swydd llawn amser am gyfnod penodol o flwyddyn gyda’r posibilrwydd o barhad yn ddibynnol ar gyllid digonol.

Prif ròl:

Mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn chwilio am Swyddog Datblygu brwd ac egnïol i ymuno â’r tîm i hybu a chynyddu defnydd o’r Gymraeg o fewn cymunedau sioredd Y Fflint a Wrecsam drwy gynnal ystod eang o weithgareddau a phrosiectau.

Lleoliad:

Yr Wyddgrug

Dyddiad Cau:

Hanner dydd, Dydd Iau, 22/08/2019

Cyfweliadau:

Yn yr Wyddgrug yn ystod yr wythnos yn cychwyn 02/09/2019

Am sgwrs anffurfiol neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â Gill Stephen (Prif Swyddog). Ffurflen gais i’w gweld isod.