MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM
Mudiad lleol yw Menter Iaith Fflint a Wrecsam sy’n hybu a hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned.
SWYDDOG GWEITHGAREDDAU CYMUNEDOL
Rydym yn chwilio am berson brwd ac egnïol i weithio gyda ni drwy gynnal ystod eang o weithgareddau a phrosiectau hwyliog er mwyn cynyddu defnydd o’r Gymraeg o fewn cymunedau siroedd y Fflint a Wrecsam.
Cyflog: £19,680 + cyfraniad pensiwn cyfatebol hyd at 6%
Oriau: 37 awr yr wythnos (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio’n llawn amser, rhan-amser neu rannu’r swydd). Rydym yn gweithredu polisi gweithio hybrid ynghyd â phatrymau gwaith hyblyg.
Lleoliad: Mae swyddfa’r Fenter yn yr Wyddgrug Dyddiad Cau: Hanner dydd, Dydd Llun 4ydd Gorffennaf 2022
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Gill Stephen (Prif Swyddog) gill@menterfflintwrecsam.cymru 01352 744040