Unwaith eto eleni, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam wedi trefnu dathliadau yn nhref Wrecsam ar Fawrth y 1af.
Mae’r dathliadau hyn wedi bod yn hynod boblogaidd dros y blynyddoedd diwethaf. Unwaith eto eleni disgwylir i’r dref fod yn fôr o goch, gwyn a gwyrdd gydag ymhell dros fil o bobl yn ymgasglu i gymryd rhan neu gefnogi’r orymdaith a mwynhau’r adloniant.
Gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi
Yn ôl yr arfer bydd yr orymdaith yn ymgasglu tu allan i Neuadd y Dref o 12.45pm ymlaen gan ddechrau am 1.00pm (ar ei ben!) ac o dan arweiniad ysbrydoledig Band Cambria. Mi fydd wedyn yn ymlwybro drwy’r dref cyn gorffen yn Sgwâr y Frenhines ble bydd disgyblion ysgolion lleol yn perfformio a bydd cyfle i bawb ganu Calon Lân a Hen Wlad fy Nhadau i gyfeiliant Band Pres Hŷn Sir Wrecsam. Mae hefyd croeso i unrhywun sydd eisiau ymuno ar hyd y daith.
Cystadleuaeth Addurno Ffenestri
Dywedodd Prif Swyddog Menter Iaith Fflint a Wrecsam, Gill Stephen,
“Mae yna groeso mawr i unrhyw un sy â diddordeb mewn ymuno yn yr hwyl gysylltu â ni, boed yn unigolion, ysgolion, cymdeithasau, mudiadau neu chlybiau ieuenctid lleol. Rydym hefyd yn gobeithio adeiladu ar lwyddiant cystadleuaeth addurno ffenestri y llynedd drwy gael hyd yn oed mwy o fusnesau lleol i gymryd rhan. Mae’r gystadleuaeth hon yn annog busnesau’r dref i addurno eu ffenestri ar y thema Dydd Gŵyl Dewi i ddathlu popeth Cymraeg a bydd y busnes buddugol yn ennill gwobr ac mae amser o hyd i fusnesau gysylltu â ni i gofrestru a derbyn eu pecyn cychwynnol – yn rhad ac am ddim!”
Mae’r dathliadau hyn yn rhan o lu o ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal ar draws Cymru gyfan i ddathlu diwrnod arbennig Nawddsant Cymru, felly defnyddiwch #DewiWrecsam ar y cyfryngau cymdeithasol am wybodaeth, i rannu lluniau, ac i ddilyn hanes y diwrnod.
Dylai unrhyw un â diddordeb mewn ymuno yn yr orymdaith neu’r gystadleuaeth addurno ffenestri gysylltu â Gwen Smith ym Menter Iaith Fflint a Wrecsam neu ffonio 01352 744 040.