Cannoedd o bobl yn gorymdeithio yn Wrecsam i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi er gwaethaf y tywydd garw.
Yr orymdaith fawreddog
Er gwaethaf yr eira a’r tymheredd rhewllyd, cafwyd diwrnod anhygoel yn dathlu Nawddsant Cymru yn Wrecsam ar Fawrth 1af, gyda channoedd o drigolion Wrecsam yn benderfynol o fentro allan i wylio a chymryd rhan yn yr orymdaith a’r dathliadau. Mae gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi Wrescam bellach yn ddigwyddiad blynyddol fawreddog yng nghalendr tref fwyaf gogledd Cymru, sy’n cael ei drefnu gan Fenter Iaith Fflint a Wrecsam gyda chydweithrediad a chefnogaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Roedd y dref yn fôr o goch, gwyn a gwyrdd gyda baneri Cymru, balŵns a chennin pedr wrth i bobl o bob oed ddod i gymryd rhan yn yr orymdaith trwy’r dref dan arweiniad ysbrydoledig Band Cambria. Ymunodd nifer o fudiadau lleol yn y dathlu eleni, gan gynnwys Mudiad Meithrin, Prifysgol Glyndŵr, Coleg Cambria, Gwasanaeth Tân ac Achub a chynrychiolwyr o Garchar y Berwyn. Mynychodd Dewin a Magi Ann, Ffi Ffi y ci defaid ac roedd Chrys y ddraig hyd yn oed yn bresennol yn ystod yr orymdaith hefyd!
Dathliadau yn parhau ar Sgwâr y Frenhines
Roedd perfformiadau arbennig yn Sgwâr y Frenhines ar ddiwedd y daith gyda Michael Ruggiero (‘Mic ar y Meic’) yn cyflwyno a diddanu’r dorf, cyn i bawb ymuno i gyd-ganu Calon Lân a’r Anthem Genedlaethol i gyfeiliant Band Pres Hŷn Sir Wrecsam i ddod â’r dathliadau i ben.
Cystadleuaeth addurno ffenestri
Gwobrwywyd enillwyr y gystadleuaeth addurno ffenestri hefyd. Roedd y gystadleuaeth hon yn annog busnesau’r dref i addurno eu ffenestri ar y thema Dydd Gŵyl Dewi i ddathlu popeth Cymraeg. Daeth y Maer i’r canlyniad hwn:
> Cydradd 2il- EMZ’s Cakes, Stryd Gaer a Regent House of Flowers, Stryd Yorke
> 3ydd- Martin Rees Jewellers, Stryd Gaer
Dywedodd Gill Stephen, Prif Swyddog Menter Iaith Fflint a Wrecsam:
“Gwych iawn eto eleni i weld cymaint o blant Wrecsam- yn ymuno yn y dathliadau er gwaethaf y tywydd eithriadol o oer. Braf iawn hefyd oedd gweld cymaint o bobl lleol yn benderfynol o ddod allan i gymryd rhan yn y parêd.
Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Gyngor Bwrdeistrefol Sirol Wrecsam am eu cefnogaeth. Braf oedd cael Maer Wrecsam a Phrif Weithredwr Gweithredol y Cyngor Sirol, Claire Field yn gorymdeithio gyda ni. Diolch hefyd i’r Heddlu ac Ambiwlans St. Ioan am eu cymorth.
Mae dathliadau Dydd Gŵyl Dewi wedi bod yn tyfu pob blwyddyn ac erbyn heddiw wedi’i sefydlu fel digwyddiad blaenllaw yng nghalendr Wrecsam.
Rydym yn edrych ymlaen at weld yr orymdaith yn parhau i dyfu mewn poblogrwydd a pharhau i ddod â’r gymuned at ei gilydd i’r dyfodol.”