Dathliad o Ieunctid, Diwylliant ac Hunaniaeth Gymreig yn Y Fflint 

Cafwyd bore braf eithriadol yn Y Fflint ar Chwefror y 22ain wrth i ddisgyblion ysgolion lleol a thrigolion y dref ddod ynghyd ar gyfer dathliad Dydd Gŵyl Dewi cynnar y dref. Yn gynharach i’r arfer, trefnwyd y dathliad oedd hefyd yn ddathliad o ieunctid, diwylliant ac hunaniaeth Gymreig yng nghanol tref y Fflint o flaen Eglwys Santes Fair ar Stryd yr Eglwys gan Fenter Iaith Fflint a Wrecsam mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref y Fflint.

I gychwyn y dathliadau perfformiodd Band Cambria ac i ddilyn cafwyd perfformiadau â blas Cymreig iddynt gan rai o’r ysgolion lleol (Ysgol Gwynedd, Ysgol Parc Cornist, Ysgol Pen Coch, Ysgol Maes Hyfryd ac Ysgol Croes Atti). Yn cyflwyno’r cyfan oll oedd Michael Ruggerio (‘Mic ar y Meic’). I ddod â’r dathliadau i ben, ymunodd pawb i gyd-ganu Calon Lân a’r Anthem Genedlaethol. Ymunodd y cymeriadau poblogaidd Magi Ann a Mr Urdd yn y dathlu hefyd!

Cystadleuaeth Addurno Ffenestri

Gwobrwywyd enillwyr y gystadleuaeth addurno ffenestri hefyd.  Cystadleuaeth yw hon i annog busnesau’r dref i addurno eu ffenestri ar y thema Dydd Gŵyl Dewi i ddathlu popeth Cymraeg. Daeth y Maer i’r canlyniad hwn:

1af- Hospis Tŷ’r Eos

2il- Crefftau Cariad

3ydd- Caffi’r Hen Lys

Dywedodd Gill Stephen, Prif Swyddog Menter Iaith Fflint a Wrecsam:

“Mae’n braf iawn bob blwyddyn i weld cymaint o bobl lleol yn dod allan i wylio’r perfformiadau ac ymuno yn yr hwyl. Erbyn hyn mae dathliadau dydd Gŵyl Dewi y Fflint wedi’i sefydlu fel digwyddiad poblogaidd yng nghalendr y dref ac rydym yn edrych ymlaen at eu gweld yn parhau i dyfu a pharhau i ddod â’r gymuned at ei gilydd i’r dyfodol.

Rydym yn ddiolchgar iawn i Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref y Fflint am eu cefnogaeth oedd yn gwneud y dathliadau’n bosibl. Rydym yn arbennig o ddiolchgar hefyd unwaith eto i Eglwys y Santes Fair a Dewi Sant am y croeso cynnes a chymorth ymarferol! Braf hefyd oedd cael cwmni Maer y Fflint wrth iddo gyhoeddi enillwyr y Gystadleuaeth Addurno Ffenestri a chyflwyno’r gwobrau.”