Rydym yn chwilio am berson brwd ac egnïol i weithio gyda ni i greu rhwydwaith o bobl ifanc fydd, gyda chymorth y Fenter, yn arwain ar drefnu perfformiadau, sesiynau a ymgyrchoedd i hyrwyddo’r sîn gerddoriaeth Gymraeg gan rhoi profiadau celfyddydol o safon i blant a phobl ifanc a’r gymuned ehangach.
Mae’r Prosiect Sîn ar y Ffin yn brosiect sy’n cael ei ariannu gan Gyngor y Celfyddydau drwy gyllid y Loteri Genedlaethol a’i brif hanfod yw i danio diddordeb ac ysbrydoli pobl ifanc i wrando ar mwy o gerddoriaeth cyfoes, i fynychu gwyliau a chyngherddau Cymraeg neu ddwyieithog ac i ddefnyddio cerddoriaeth Cymraeg fel cyfrwng i greu.
Yn ystod blwyddyn cyntaf y prosiect, bydd ein Swyddog Prosiect Sîn ar y Ffin yn cynnal cyfres o sesiynau / clwb cerddoriaeth Cymraeg yn y ddwy ysgol Uwchradd Gymraeg, Ysgol Morgan Llwyd ac Ysgol Maes Garmon, i gyflwyno cerddoriaeth cyfoes Cymraeg i’r disgyblion, i ddysgu a thrafod artistiaid a bandiau newydd, i ddysgu sgiliau newydd sydd yn ymwneud ar sîn gerddoriaeth gyfoes ac i drochi plant a phobl ifanc Sir y Fflint a Wrecsam mewn cerddoriaeth Cymraeg.
Hefyd yn ystod y flwyddyn gyntaf bydd y swyddog newydd yn sefydlu grŵp o ddisgyblion hŷn i gynorthwyo a chynllunio amserlen y clwb cerddoriaeth, i drefnu ymgyrchoedd a pherfformiadau yn yr ysgol ac yn y gymuned a hefyd i wneud penderfyniadau ar drywydd y prosiect yn yr hir dymor.
Os am sgwrs i drafod y swydd dan sylw ymhellach mae croeso i chi gysylltu a’n Prif Swyddog Maiwenn Berry: maiwenn@menterfflintwrecsam.cymru