Pam dewis Cymraeg?
Pa bynnag iaith rydych chi’n ei siarad gartref, gall addysg cyfrwng Cymraeg roi cyfleoedd, profiadau a sgiliau ychwanegol i’ch plentyn. Mae dewis addysg cyfrwng Cymraeg yn rhoi’r cyfle i’ch plentyn ehangu ei sgiliau dwyieithog yn greadigol ac yn academaidd. Mae manteision ehangach i addysg ddwyieithog gan gynnwys effaith gadarnhaol ar alluoedd gwybyddol plentyn, ac mae’r buddion hyn yn para am oes.
Cyn oed Ysgol
Grwpiau Cymraeg i Blant Cymraeg i Blant – Mudiad Meithrin
Mae Cymraeg i blant ar gael o’r cychwyn cyntaf i dy helpu di fel rhiant newydd i siarad Cymraeg gyda dy blentyn yn y cartref ac i dy gefnogi wrth ddewis gofal plant ac addysg Gymraeg.
Cylchoedd Ti a Fi Cylch Ti a Fi – Meithrin
Grwpiau i rieni a phlant bach lle gall eich plentyn chwarae a chymdeithasu mewn awyrgylch Cymraeg.
Meithrinfeydd
Mae yna feithrinfeydd dydd Cymraeg a dwyieithog yn Sir Fflint a Wrecsam sy’n cyflwyno’r Gymraeg i blant o’r cychwyn, drwy weithgareddau yn y Gymraeg a thrwy gyfathrebu’n Gymraeg gyda’r babis a’r plant bach.
Cylchoedd Meithrin Cylchoedd Meithrin – Meithrin
Sesiynau dysgu a datblygu i blant o ddwy flwydd oed i oed ysgol, gan gynnig cyfle i gymdeithasu a dysgu trwy chwarae yn Gymraeg.
Dosbarthiadau Meithrin yn yr ysgol
Mae gan rai ysgolion ddosbarthiadau Meithrin a bydd y dosbarthiadau hyn fel arfer yn Gymraeg os yw’r ysgol yn un Gymraeg.
Peidiwch â phoeni os nad ydych yn siarad Cymraeg! Mae’r holl sefydliadau’n croesawu rhieni di-Gymraeg sy’n dymuno cyflwyno’r Gymraeg i’w plant. Ceisiwch ddefnyddio cymaint o Gymraeg â phosibl gyda’ch plant – bydd hyn yn eu helpu i ddatblygu’r gallu i siarad yn hyderus ac yn naturiol.
Ysgolion Cynradd Sir y Fflint
Ysgol Terrig, Treuddyn Ysgol Terrig
Ysgol Gwenffrwd, Treffynnon Hafan / Home
Ysgol Glanrafon, Yr Wyddgrug Ysgol Glanrafon
Ysgol Croes Atti, Fflint a Shotton Ysgol Croes Atti
Ysgol Mornant, Penyffordd Ysgol Gymraeg Mornant
Ysgol Uwchradd Sir y Fflint
Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug Ysgol Maes Garmon
Ysgolion Cynradd Sir Wrecsam
Ysgol Bodhyfryd, Wrecsam Ysgol Bodhyfryd
Ysgol Bryn Tabor, Coedpoeth Ysgol Bryn Tabor
Ysgol Bro Alun, Gwersyllt Ysgol Bro Alun
Ysgol Plas Coch, Wrecsam Ysgol Plas Coch
Ysgol I.D Hooson, Rhosllanerchrugog Ysgol ID Hooson
Ysgol Llan y Pwll, Borras Ysgol Llan-y-pwll
Ysgol Min y Ddol, Cefn Mawr Ysgol Min y Ddol
Ysgol Cynddelw, Glyn Ceiriog Ysgol Cynddelw – Dwyieithog
Ysgol Llanarmon, Llanarmon Dyffryn Ceiriog Ysgol Llanarmon – Dwyieithog
Ysgol Uwchradd Sir Wrecsam
Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam Ysgol Morgan Llwyd
Prifysgol Sir Wrecsam
Prifysgol Wrecsam Prifysgol Wrecsam
Cymraeg i Oedolion
Coleg Cambria Iâl, Wrecsam Coleg Cambria
Dysgu Cymraeg, Wrecsam Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain | Dysgu Cymraeg
Mwy o wybodaeth a chefnogaeth
Rhieni Dros Addysg Gymraeg Hafan | RHAG
Addysg Gymraeg Sir y Fflint Y Gymraeg mewn Addysg a Dysgu Gydol Oes
Addysg Gymraeg Sir Wrecsam AGW -Addysg Gymraeg Wrecsam , Addysg Gymraeg Wrecsam / Wrexham Welsh Education – YouTube