Llwybrau Llafar

Dach chi’n barod i ddarganfod hanes arswydus Wrecsam neu i ddatrys dirgelion a chyfrinachau sy’n llechu yn ein diancfa?  

Diolch i gronfa Grant Comisiwn Diwylliannol Wrecsam2029, mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn edrych ymlaen i wahodd trigolion Wrecsam a thu hwnt i brofi hanes, treftadaeth, diwylliant a llen gwerin Cymru mewn cyfres o ddigwyddiadau cyffrous dros y misoedd nesaf.

Ein digwyddiad cyntaf fydd ‘Taith y Tolaeth’ ar noson Calan Gaeaf, ar y cyd gyda chwmni ‘Ghost Tours North Wales’  – cyfle i fynd ar daith gerdded ar hyd lwybrau canol y ddinas a chlywed am hynt a helyntion rhai o gymeriadau mwyaf atgas a ddidostur yr ardal, ynghyd a dysgu mwy am draddodiadau brawychus y Cymry.   

Thema’r cais Dinas Diwylliant eleni oedd ‘Chwarae’ a gyda hynny mewn golwg, mi fyddwn yn cynnal ein Diancfa  (Ystafell Ddianc) cyntaf erioed.  Ydych chi’n ddigon cyfrwys a chraff i ddatrys yr holl bosau a’r cliwiau er mwyn dianc o’r Amgueddfaaa!? Dyma’r weithgaredd perffaith i fwynhau gyda ffrindiau neu fel teulu!  

Dan ni hefyd yn edrych ymlaen i gynnal gweithgaredd beilot arbennig gyda rhai o ysgolion Wrecsam sydd wedi’i leoli ger Parc Bellevue.  Bydd Bwystfilod y Bwrdeistref yn gyfle i wrando ar rai o chwedleuwyr gorau’r fro Fiona Collins (awdures Wrexham Folktales) a Professor Llusern (crëwr podlediad chwedlau Yma Mae Dreigiau)  a dysgu am greaduriaid hudol sydd yn cuddio yn ein milltir sgwâr.

Mae’r fenter hefyd yn paratoi at gynnal mwy o ddigwyddiadau tebyg i deuluoedd, plant a phoblifanc a’r gymuned ehangach cyn ddiwedd mis Ionawr er mwyn rhoi’r cyfle i gymaint a sy’n bosib o bobl ddysgu am eu hardal leol, i ymarfer yr hyn o Gymraeg sydd ganddyn nhw ac i ddathlu Wrecsam.

 Mae Wrecsam a Chymru yn frith o chwedlau, hanes a straeon di-ri a bwriad y prosiect yw dod â’r straeon a‘r hanes hynny, ynghyd â threftadaeth leol a chenedlaethol yn fyw mewn ffordd rhyngweithiol, creadigol a chwareus fydd yn ennyn diddordeb ac yn tanio’r dychymyg.      

“Roedden ni eisiau creu rhywbeth gwahanol – rhywbeth fyddai’n helpu pobl o bob oed a chefndir i ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol tra’n mwynhau gweithgaredd unigryw,” meddai Maiwenn Berry, Prif Swyddog, Menter Iaith Fflint a Wrecsam.

Bydd manylion llawn am ddyddiadau, lleoliadau a sut i archebu’n cael eu rhannu cyn bo hir ar gyfryngau cymdeithasol Menter Iaith Fflint a Wrecsam ac ar wefan www.menterfflintwrecsam.cymru

“Mae’r prosiect ‘Llwybrau Llafar’ wedi derbyn £8,000 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.”

– diwedd –

Nodyn i Olygyddion: Am wybodaeth bellach cysylltwch â Ceri Ellett

01352 744 040

Ceri@menterfflintwrecsam.cymru

Mudiadau lleol yw Mentrau Iaith, sy’n rhoi cymorth i gymunedau i gynyddu ac ehangu’r defnydd o’r iaith Gymraeg. Mae’r Mentrau yn rhoi cymorth a chyngor i unigolion, mudiadau a busnesau, ac yn cynnal gwahanol digwyddiadau a gweithgareddau o fewn eu cymunedau.