Ydych chi’n barod i fynd ar antur i ddysgu am yr ardal leol a’r holl dirnodau sydd wedi siapio ac sydd yn parhau i siapio dinas hanesyddol ac eiconig Wrecsam?

Diolch i gronfa Grant Comisiwn Diwylliannol Wrecsam2029, mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn edrych ymlaen i wahodd trigolion Wrecsam a thu hwnt i brofi hanes, treftadaeth a diwylliant y ddinas yn ein gweithgaredd olaf fel rhan yn o’r gyfres Llwybrau Llafar.

Ni fydd angen tywyswr yn y cnawd i’ch arwain ar hyd y llwybr hwn gan mai Helfa Antur ar eich ffôn yw’r gêm!  Ar ôl sganio cod QR, bydd cwestiynau a heriau rhyngweithiol yn eich tywys o un man dirgel i’r un nesaf.  Gweithgaredd llawn hwyl i’r teulu oll!

Wrth ymgymryd â’r her, byddwch yn cael eich hudo gan wybodaeth hanesyddol a chyffrous sy’n rhoi mewnwelediad i orffennol bywiog y ddinas.

Gwybodaeth bwysig

Pryd: Dechrau ar y 30.01.2026. Gweithgaredd parhaol.

Cost: AM DDIM

Addas ar gyfer: Addas ar gyfer oedolion a phlant sy’n medru siarad Cymraeg neu sydd yn dysgu.

Bydd manylion llawn yn cael eu rhannu’n fuan ar gyfryngau cymdeithasol Menter Iaith Fflint a Wrecsam ac ar y wefan.

“Mae’r prosiect ‘Llwybrau Llafar’ wedi derbyn £8,000 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.”