Mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn hynod o falch i gyhoeddi bod  Gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi yn dychwelyd ar gyfer 2026!

Bydd y dathliadau lliwgar a chyffrous yn dechrau gyda’r orymdaith, fydd yn ymgynnull o flaen Neuadd y Dref (Llwyn Isaf) cyn 1:00yh ar ddydd Sul y 1af o Fawrth 2026.

Bydd cyfle i ymgynnull ar ôl yr orymdaith i gyd-ganu’r anthem a Chalon Lân o dan arweiniad Andy Hickie.

Bydd y diwrnod yn un llawn bwrlwm gyda sawl mudiad a sefydliad arall hefyd wedi trefnu gweithgareddau amrywiol i’r gymuned gyfan, gan gynnwys cerddoriaeth byw ar Sgwâr y Frenhines a chyfle i fwynhau’r farchnad misol.   

Dywedodd y Cyng. Tina Mannering, Maer Wrecsam:

“Mae Gorymdaith Gŵyl Ddewi Wrecsam yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i’r ddinas. Mae’n dod â’r gymuned at ei gilydd i ddathlu diwylliant ac etifeddiaeth Cymreig a dwi’n siŵr ni fydd 2026 yn eithriad. Fel y dywedodd Dewi Sant ei hun, “Byddwch lawen, a chedwch eich ffydd a’ch cred, a gwnewch y pethau bychain”, felly dewch ar y 1af o Fawrth a mwynhewch y dathliadau.”

Felly dyma estyn gwahoddiad i bawb ymuno yn y cyffro ac i ddathlu ein nawddsant – croeso cynnes i bawb!

Os oes gennych diddordeb mewn gwirfoddoli yn yr orymdaith cysylltwch â Carys Knight ym Menter Iaith Fflint a Wrecsam ar 01352 744 040 neu e-bostio carys@menterfflintwrecsam.cymru .

– Diwedd –

Nodyn i Olygyddion: Am wybodaeth bellach cysylltwch â Ceri Ellett

01352 744 040

ceri@menterfflintwrecsam.cymru

Mudiadau lleol yw Mentrau Iaith, sy’n rhoi cymorth i gymunedau i gynyddu ac ehangu’r defnydd o’r iaith Gymraeg. Mae’r Mentrau yn rhoi cymorth a chyngor i unigolion, mudiadau a busnesau, ac yn cynnal gwahanol digwyddiadau a gweithgareddau er mwyn codi proffil yr iaith.