Gŵyl GwyddGig yn ôl ar gyfer 2026!

Rydym yn hynod o falch o gyhoeddi bod ein gŵyl gymunedol Gymraeg yn dychwelyd i’r Wyddgrug eto eleni penwythnos y 12fed-13eg o Fehefin!

Bydd gwledd o weithgareddau a pherfformiadau amrywiol yn cael eu cynnal mewn lleoliadau ledled y dref. Does dim dwywaith y bydd rhywbeth at ddant pawb.

Yn newydd eleni bydd agoriad arbennig i’r ŵyl gyda gig cymunedol AM DDIM i’r teulu oll yn Ysgol Bryn Coch ar y nos Wener.  Mae’r gig hwn wedi cael ei drefnu gyda chymorth criw o ddisgyblion Ysgol Maes Garmon fel rhan o brosiect ‘Y Sîn ar y Ffin’ ac dan ni’n edrych ‘mlaen i groesawu’r bandiau hynod dalentog Cordia a Dadleoli i ddechrau’r dathliadau.

Bydd diwrnod llawn hwyl a sbri yn eich disgwyl ar y dydd Sadwrn hefyd: o sesiynau crefft gyda Dwylo Blêr, i sesiynau i’r plant lleiaf gyda Sensori Sara ac Elaine o Cymraeg i Blant, i hwyl gyda’r Urdd i blant hyn, i sesiwn clocsio gydag Angharad Harrop a mwy.  Ar Lwyfan Daniel Owen ac ar hyd a lled y dref bydd perfformiadau cyfareddol gan ysgolion lleol, Côr y Pentan, Osian Powell Jones a’r bandiau gwerin Elin a Carys a Lo-Fi Jones.   

Dewch yn llu – yn ifanc ac yn hŷn, bydd cyfle i bawb ddod ynghyd i ddathlu a mwynhau!

Bydd mwy o fanylion ac amserlen yn cael eu rhyddhau yn agosach at yr amser felly cadwch lygaid allan ar ein cyfryngau cymdeithasol.