
Fel rhan o brosiect ‘Y Sîn ar y Ffin’, mae’r Fenter yn hynod falch o fedru croesawu’r band bendigedig, Calfari, i lwyfan Gŵyl Fwyd a Diod yr Wyddgrug eleni ar gyfer perfformiad arbennig ar ddydd Sadwrn y 19eg o Fedi am 1yh.
Dyma ychydig o hanes y band enwog:
“Ffurfiwyd Calfari ym mis Hydref 2014. Mae’r band yn cynnwys Bryn Hughes Williams (prif leisiau), Tomos Gashe (gitâr), Siôn Jones (gitâr/llais), Gavin Malone (bas), Dave Woodhouse (drymiau) ac Elin Angharad (llais).
Gyda sŵn Pop-Roc Cymreig bachog a chyfoes, bu’r band yn perfformio ledled Cymru ac mewn gwyliau mawr, gan rannu llwyfan gydag artistiaid fel y Proclaimers, Johnny Marr a Jools Holland.
Rhyddhawyd eu halbwm cyntaf, Gorwelion, yn 2017, yn dilyn dau EP llwyddiannus, Nôl ac Ymlaen a Tân.”
Ar ôl bron i ddegawd o seibiant mae Calfari wedi dychwelyd i’r sîn gan recordio deunydd newydd sbon. Rhyddhawyd y sengl gyntaf, Nôl Mewn Amser, ym Mehefin 2026, gyda EP newydd ar y gweill ar gyfer dechrau 2027.
Yn ogystal â hyn, mi fydd gan y Fenter stondin yn yr ŵyl ar y dydd Sadwrn a Sul. Dewch draw i gael sgwrs gyda’n staff fydd â gwybodaeth am ein digwyddiadau sydd ar y gweill ac yn fwy na hapus i ateb unrhyw gwestiynau.
Gobeithiwn eich gweld chi yno!