Hydref 10, 2026 10:00 am - Mawrth 20, 2027 4:00 pm Amrywiol | Various
Dyma gyhoeddi cyfres o ddigwyddiadau ymgynghori anffurfiol ar draws siroedd y Fflint a Wrecsam, gyda’r bwriad o roi cyfle i deuluoedd, plant a phobl ifanc, siaradwyr newydd a phrofiadol i rannu syniadau ar weithgarwch Cymraeg yn ein cymunedau.

Bydd y sesiynau yn cynnwys cyfle am baned, sgwrs a thrafodaeth gyda thîm Menter Iaith Fflint a Wrecsam, ynghyd a gweithgareddau llawn hwyl i ddiddanu plant a theuluoedd.  O ddawnsio mewn Disgo Distaw, i roi cwtsh a phawen lawen i Magi Ann a mwy. 

Felly dewch i ymuno yn un o’r sesiynau gan helpu i lywio gwaith y Fenter dros y blynyddoedd nesaf:

-Dydd Sadwrn 10.10.26
10am-12pm Canolfan Ceiriog, Glyn Ceiriog
1-4pm Y Stiwt, Rhosllanerchrugog

-Dydd Sadwrn 24.10.26
10am-12pm Capel Bethesda, Yr Wyddgrug
2-4pm Eglwys Gymraeg Bro Treffynnon

-Dydd Sadwrn 06.02.27
10am-12pm Plas Pentwyn, Coedpoeth
2-4pm Tŷ Pawb, Wrecsam

-Dydd Sadwrn 20.03.27
10am-12pm Tŷ Calon, Glannau Dyfrdwy
2-4pm Neuadd y Dref, Fflint

Bydd croeso cynnes i bawb, o unigolion, i fudiadau, i grwpiau cymdeithasol ac i deuluoedd.  Dewch i glywed am ein gwaith i gynyddu defnydd o’r Gymraeg ac i fwynhau bore neu brynhawn o sgwrsio a chwarae yn y Gymraeg.  

Mae’r digwyddiadau galw heibio uchod oll am ddim ac nid oes angen archebu lle.

Bydd manylion pellach ynghyd a lleoliadau a dyddiadau eraill yn cael eu cyhoeddi ar ein cyfryngau cymdeithasol, yn ein newyddlen ac ar ein gwefan.