Cefnogi’r Menter Iaith

Cefnogi’r Mentrau Iaith…

Mae cefnogi’r Mentrau Iaith, eu swyddogion a’u pwyllgorau wrth wraidd ein gwaith.  Rydym yn gwneud hyn trwy:

  • Ddarparu cyfleoedd i rwydweithio, rhannu gwybodaeth, syniadau a chydweithio trwy amryw o gyfarfodydd, cynadleddau a chyfleoedd hyfforddiant
  • Dylanwadu er budd y Gymraeg trwy ymateb i ymgynghoriadau cyhoeddus ar ran y Mentrau Iaith
  • Datblygu prosiectau rhanbarthol a chenedlaethol, gan gynnwys Brwydr y Bandiau a Chynllun Marchnad Lafur Cyfrwng Cymraeg
  • Cynnig cefnogaeth ac arweiniad i’r Mentrau Iaith ar faterion amrywiol, gan gynnwys polisi mewnol, staffio, ymchwil a chyfleoedd datblygu yn y maes cynllunio iaith.

Ceir manylion pellach am rai o’n gweithgareddau isod.

Cynadleddau…

Trefnir dwy gynhadledd flynyddol gan MIC ar gyfer swyddogion y Mentrau. Cynhelir un gynhadledd ar gyfer y Prif Swyddogion a Chaderyddion y gwahanol Fentrau, a chynhadledd i Swyddogion Maes y Mentrau.

EisteddfodUrdd2015_km051Mae’r cynadleddau’n gyfle i swyddogion y Mentrau rwydweithio, dysgu, rhannu gwybodaeth, profiadau ac arfer da.

Cynhaliwyd y ddwy gynhadledd ddiwethaf yn y ganolfan iaith genedlaethol yn Nant Gwrtheyrn. Bydd y cynadleddau nesaf yn cael eu cynnal ym mis Tachwedd 2015 a Chwefror 2016 ym Merthyr Tudful ac yng Nghaerdydd.

Hyfforddiant…

IMG_1103Trefnir rhaglen hyfforddiant flynyddol gan MIC ar gyfer swyddogion y Mentrau, rhaglen  gyfredol sydd yn ateb anghenion hyfforddiant amrywiol y Mentrau ac yn eu cefnogi i wireddu eu hamcanion.

Mae cynnwys yr hyfforddiant yn amrywiol, o amddiffyn plant i reoli ac arwain, o gynllunio ieithyddol i ddatblygu cymunedol.

Rydym yn defnyddio profiad a sgiliau swyddogion profiadol i hwyluso hyfforddiant lle mae’n briodol, a’r gweddill yn gymysegdd o gyd-weithio gyda phartneriaid i ddatblygu rhaglenni perthnasol neu ddefnyddio darparwyr a hwylyswyr hyfforddiant Cymraeg eu hiaith.

Marchnata…

Datblygir Strategaeth Farchnata Genedlaethol gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o waith y Mentrau a hyrwyddo prosiectau sy’n hybu’r Gymraeg ledled Cymru.

SONY DSCRydym yn cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol eraill i ddatblygu a chefnogi ymgyrchoedd marchnata sy’n hyrwyddo’r Gymraeg. Gellir darllen mwy am yr ymgyrchoedd hyn ar ochr dde’r dudalen hon.

Rhan ganolog o weithgarwch marchnata MIC yw ein presenoldeb yn yr Eisteddfodau Cenedlaethol. Yn ogystal, rydym yn cynnal stondinau mewn cynadleddau a gwyliau, Cymru ben baladr.

Dilynwch ni ar Facebook ac ar Twitter am y newyddion diweddaraf am waith y Mentrau a phrosiectau cyffrous eraill sy’n cefnogi ac yn hyrwyddo’r Gymraeg.

 

Ein Gwaith