Mae’r Fenter yn falch o gyflwyno ein Swyddog Prosiect ‘Y Sîn ar y Ffin’, Poppy Wright. Mae Poppy yn frodor o Wrecsam ac yn angerddol iawn dros yr iaith Gymraeg ac yn hynod o falch i fedru helpu darparu cyfleoedd trwy gyfrwng y Gymraeg yn y gymuned. Mae Poppy wrth ei bodd efo bob math o gerddoriaeth ac yn edrych ymlaen yn fawr i fedru helpu hyrwyddo’r sîn gerddoriaeth Gymraeg yn siroedd y Fflint a Wrecsam. 

Diolch i gyllid gan y Cyngor Celfyddydau, mi fydd y fenter yn gweithio tuag at gynnal cyfres o glybiau/sesiynau cerddoriaeth Cymraeg yn y ddwy ysgol uwchradd Gymraeg yn siroedd y Fflint a Wrecsam, i gyflwyno cerddoriaeth cyfoes Cymraeg i’r disgyblion, i ddysgu a thrafod artistiaid a bandiau newydd ac i ddysgu sgiliau newydd. 

Byddwn yn gweithio tuag at sefydlu grwpiau o ddisgyblion hŷn fydd yn arwain ar y prosiect, i gynllunio a gwirfoddoli yn y clwb cerddoriaeth, i gynnal a hyrwyddo gigs amser cinio, gweithdai a gigs yn y gymuned a thrywydd y prosiect yn y tymor hir. 

Rydym yn awyddus i feithrin diddordeb yn y sîn Gymraeg yn gyffredinol, drwy sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu cyflwyno i’r cyfoeth o gerddoriaeth Cymraeg sy’n cael ei greu heddiw ac yn gweld mwy o gerddoriaeth byw yn eu hardaloedd lleol.  A phwy a ŵyr, efallai byddwn yn ysbrydoli’r artist neu’r band nesa i gyrraedd llwyfannau mwyaf Cymru.