GwyddGig

Mae Gwyddgig yn ôl!

Yn dilyn y llwyddiant ben i gamp llynedd mae Gŵyl Gymunedol Gymraeg Yr Wyddgrug, GwyddGig, yn dychwelyd unwaith eto eleni. Dyma’r ŵyl sy’n ddathliad diwylliannol a chelfyddydol gyda cherddoriaeth byw, gweithdai i deuluoedd a phobol ifanc, sgyrsiau i ddysgwyr a mwy.

Felly dyma estyn gwahoddiad i chi i ymuno yn y bwrlwm ar Sgwâr Daniel Owen ar 12fed Gorffennaf 2025 – ar hyn oll am ddim!

Bydd gweithdai a gweithgareddau o bob lliw a llun yn yr adeiladau cyfagos gan gynnwys y Llyfrgell, Canolfan Daniel Owen, Neuadd y Seiri a Neuadd Eglwys y Santes Fair. Eleni mae gweithgareddau yn cynnwys

  • Sioe Hud gan y consuriwr Cymraeg Professor Llusern
  • Stori a Chân gyda Magi Ann
  • Celf a Chrefft
  • Côr y Pentan
  • Disgo Distaw gan yr Urdd
  • Gweithdai Drymio gyda Colin Daimond
  • Gweithdai Rapio gyda Mr Phormula

A pherfformiadau ar Sgŵar Daniel Owen gan;

  • Disgyblion Ysgol Glanrafon
  • Disgyblion Ysgol Maes Garmon
  • Osh Gierke
  • Ta Waeth
  • Megan Lee
  • Meinir Gwilym
  • Al Lewis

Byddwn yn ychwanegu gweithgareddau ac actiau wrth mynd ymlaen felly dilynwch ni ar https://www.facebook.com/menteriaithffaw/

Bydd hefyd gyngerdd nos gan Daniel Lloyd a Mr Pinc i ddathlu 10 mlynedd ers lansiad Goleuadau Llundain yn y Theatr;

Archebwch drwy wefan Theatr Clwyd – What’s On (main page) | Theatr Clwyd, neu drwy ffonio’r swyddfa docynnau ar 01352 344101