Eleni, mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam, mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref y Fflint, wedi trefnu gorymdaith i ysgolion y Fflint drwy ganol y dref ar ddydd Gwener, 27 Chwefror 2026.

Dyma wahoddiad i’r gymuned gyfan ddod i gefnogi, chwifio’ch baneri a chanu’n groch gydag ysgolion y Fflint, a mwynhau dathliadau pellach ar Stryd yr Eglwys.

Dywedodd y Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet dros Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden:

“Bydd yn wych gweld ysgolion ar draws Y Fflint yn dod ynghyd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, yr iaith Gyrmaeg a’i diwylliant. Bydd yr orymdaith, wedi’i ddilyn gan gerddoriaeth Cymraeg bywiog, yn llenwi’r dref â hwyl ac yn creu cyfle gwych i’r gymuned ddod ynghyd i ddathlu popeth sy’n ymwneud â Chymru.”

Bydd cyfle i weld yr orymdaith yn teithio i Eglwys Y Santes Fair cyn ymuno yn y parti gyda cherddoriaeth Gymraeg, dawnsio ar y stryd a chanu gyda’n gilydd i ddathlu ein nawddsant.

Wrth gwrs, bydd cyfle hefyd i ymweld â busnesau’r dref – rydym yn siŵr y bydd digon o gennin pedr ar werth a chroeso cynnes yn eich disgwyl.

Bydd 6 tref ar draws y sir hefyd yn cymryd rhan yn y Gystadleuaeth Addurno Ffenestri i fusnesau, gan lenwi’r sir â lliw a balchder Cymreig. Os cewch gyfle, mae’n werth ymweld â’r Wyddgrug, Treffynnon, y Fflint, Bwcle, Cei Connah a Shotton i weld yr holl ymdrech a chreadigrwydd wrth iddynt gystadlu am y wobr gyntaf.

Mae’r dathliadau hyn yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal ledled Cymru bob blwyddyn i ddathlu ein Nawddsant. Rydym yn annog pawb i ddefnyddio’r hashnod #DewiSiryFflint ar y cyfryngau cymdeithasol i rannu lluniau, gwybodaeth a straeon o’r digwyddiad drwy gydol y dydd.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Carys@menterfflintwrecsam.cymru