Fel rhan o brosiect newydd y Fenter, ‘Y Sîn ar y Ffin’, mae hi wedi bod yn bleser cael, a pharhau i gael cydweithio gyda rhai o ddisgyblion Ysgol Maes Garmon yn Yr Wyddgrug ac Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam. Gwych yw clywed syniadau a barn y grwpiau llywio ar gyfer gigs a gweithgareddau amrywiol i annog eu cyfoedion i wrando ar gerddoriaeth Cymraeg.  Maent hefyd wedi bod yn arwain ar syniadau ar gyfer y clybiau cerddoriaeth yn yr ysgolion ac arbennig yw gweld cymaint yn dod i fwynhau yng Nghlwb Miwsig Maes Garmon a Chlwb Miwsig Morgan Llwyd bob pythefnos!  

DATHLIADAU DIWEDDAR DYDD MIWSIG CYMRU 

Fel rhan o ddathliadau Dydd Miwsig Cymru eleni, pleser enfawr oedd croesawu’r band eiconig o Lanuwchllyn – Candelas i Ysgol Morgan Llwyd ar gyfer gig acwstig fendigedig yn ystod amser cinio. Arbennig oedd gweld oddeutu 200 o ddisgyblion brwd yn dod i fwynhau’r set oedd yn cynnwys rhai caneuon newydd, a rhai o’r clasuron hefyd wrth gwrs! Yn ogystal â hyn, roedd yn fraint cael croesawu’r cewri y sîn Gymraeg  yn ôl i Dŷ Pawb ar y nos Wener i barhau a’r  dathliadau Dydd Miwsig Cymru mewn gig i’r teulu fel bod y gymuned gyfan yn medru mwynhau’r achlysur. Am awyrgylch a noson wych! Roedd yn hyfryd gallu croesawu un o griw llywio y prosiect i’r llwyfan er mwyn cyflwyno’r band i’r dorf amyneddgar a chyffrous, o oddeutu 150, oedd yn ysu i gael eu swyno gan y band hynod boblogaidd ac adnabyddus.  

AR Y GWEILL 

Mae cyfnod hynod brysur a chyffrous ar y gweill i’r Fenter a chriwiau ‘Y Sîn ar y Ffin’ ! Edrychwn ymlaen yn fawr at groesawu enwogion Cymru, Bwncath, i Ysgol Maes Garmon yn fuan ar gyfer gig acwstig amser cinio. Yn ogystal â hyn, mae’r staff i gyd yn brysur iawn yn paratoi a chynllunio ar gyfer dychweliad gŵyl gymunedol GwyddGig i’r Wyddgrug eto eleni. Does dim dwywaith y bydd gwledd o weithdai a gweithgareddau, heb anghofio perfformiadau gan rai o enwogion y sîn gerddoriaeth Gymraeg a rhai o sêr y dyfodol hefyd.  

Cadwch lygad ar ein gwefannau cymdeithasol ar gyfer y diweddariadau cyffrous.