Medi 28, 2026 12:00 am - Hydref 2, 2026 11:45 pm

Mae Gŵyl Hanes Cymru i Blant yn ôl gyda sioe byw newydd sbon (s’yn gallu cael ei gynnal yn Gymraeg neu’n Saesneg) am ffigwr hanesyddol enwog o Sir y Fflint sef Thomas Pennant o Chwitffordd, a oedd yn naturiaethwr a gafodd ddylanwad ar waith un o wyddonwyr mwya’r byd – Charles Darwin.
Dyma gyfle i fwynhau a gwerthfawrogi hanes a byd natur, dysgu am fio-amrywiaeth a pham fod adar yn canu?!
Castell Fflint: Medi 28
Dyffryn Maes Glas, Treffynnon: – Medi 29 – Hydref 2
Mi fydd y sioe AM DDIM i ysgolion, I archebu lle i’r ysgol neu am fwy o wybodaeth ewch i: AR LEOLIAD | Gwyl Hanes Cymru
