Medi 14, 2026 10:09 am
Dewch i ymuno â ni am brynhawn llawn hwyl, dawnsio, gemau a chreadigrwydd wrth i ni ddathlu Calan Gaeaf gyda’r Bwci-Bo a’i ffrindiau yng Nghanolfan Gymunedol Parkfields, Yr Wyddgrug!
Bydd cyfle i ddawnsio a chwarae i gerddoriaeth, cymryd rhan mewn gemau Calan Gaeaf a bod yn greadigol gyda gweithgareddau celf a chrefft.
Croeso i chi wisgo eich gwisg Calan Gaeaf os hoffech chi, a dewch am brynhawn o chwerthin, hwyl a digon o sbri Calan Gaeaf!
Mae’r sesiwn yn addas i deuluoedd â phlant o dan 10, ac mae croeso i bawb ymuno â ni i fwynhau Calan Gaeaf trwy gyfrwng y Gymraeg.